Aaron Ramsey (Llun:Adam Davy/PA)
Ni fydd Aaron Ramsey yn camu i’r cae ar gyfer gemau cyfeillgar Cymru ddiwedd y mis yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin.
Daeth cadarnhad y bydd allan am o leiaf bedair wythnos gydag anaf i’w glun.
Cafodd y chwaraewr canol cae ei anafu ym muddugoliaeth Arsenal o 4-0 dros Hull yng Nghwpan FA Lloegr nos Fercher – y trydydd tro mewn 13 mis iddo frifo’i glun.
Mae’n golygu o leiaf mis arall ar yr ystlys yn gwella, gyda’i glwb yn parhau i frwydro yng Nghwpan yr FA a Chynghrair y Pencampwyr yn ogystal â cheisio ennill y gynghrair.
Fydd Ramsey ddim chwaith yn cymryd rhan yng ngemau Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin ymhen pythefnos, wrth i’r tîm baratoi ar gyfer Ewro 2016.
Pryder dros eraill
Mae disgwyl i Paul Dummett hefyd fethu’r ddwy gêm ar ôl i amddiffynnwr Newcastle gael anaf arall i linyn y gâr sydd yn debygol o’i gadw allan am fis.
Fe fydd Chris Coleman yn enwi ei garfan ar gyfer y gemau ddydd Gwener nesaf, gan wybod mai dim ond y ddwy gêm hynny a gornest gyfeillgar arall yn Sweden ym mis Mehefin sydd ganddo cyn i’r tîm deithio i Ffrainc ar gyfer yr Ewros.
Fydd y chwaraewr canol cae Dave Edwards ddim ar gael ar gyfer y ddwy gêm nesaf wedi iddo yntau dorri asgwrn yn ei droed ym mis Ionawr.
Mae James Collins hefyd yn debygol o fod allan gydag anaf, tra bod amheuon o hyd dros ffitrwydd chwaraewyr fel Jonny Williams.
Ond mae Wayne Hennessey a Hal Robson-Kanu yn debygol o fod yn ffit er gwaethaf anafiadau diweddar.