Rhun ap Iorwerth
Mae Plaid Cymru wedi beio Llafur yn dilyn cyhoeddi ffigyrau sy’n dangos bod nifer y bobol sydd yn gweithio ar gytundebau ‘dim oriau’ wedi codi’n sylweddol.

Yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd 48,000 o bobol yng Nghymru yn gweithio ar gytundeb o’r fath yn 2015, o’i gymharu â 35,000 yn 2014 – cynnydd o 27% mewn blwyddyn.

Mae darlun tebyg i’w weld ar draws Prydain, ble mae mwy nag erioed bellach yn gweithio dan y cytundebau sydd ddim yn rhoi sicrwydd o faint o oriau’r wythnos y bydd rhywun yn cael eu talu i weithio.

Ond er bod y blaid Lafur ymysg y rheiny sydd wedi galw am ddod â chytundebau ‘dim oriau’ i ben, mae’r ffaith fod y cynnydd mwyaf wedi cael ei weld yng Nghymru yn golygu fod yn rhaid iddyn nhw ysgwyddo cyfrifoldeb hefyd, yn ôl Plaid Cymru.

‘Ecsploetio’

Mae 2.5% o weithwyr Prydain bellach ar gytundebau dim oriau, gan weithio cyfartaledd o 26 awr yr wythnos, gyda thraean ohonynt yn dweud yr hoffen nhw weithio mwy.

Pobol ifanc, gweithwyr rhan-amser, menywod neu’r rheiny mewn addysg llawn amser sydd fwyaf tebygol o fod â chytundebau o’r fath.

“Ar bum gwahanol achlysur, ceisiodd Plaid Cymru gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau yng Nghymru,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth.

“Fodd bynnag, er eu bod yn honni eu bod yn erbyn contractau dim oriau, ac ar waethaf addewid adeg yr Etholiad Cyffredinol i’w gwahardd, mae Llafur wedi pleidleisio yn erbyn cynigion Plaid Cymru bob tro.

“Dyhead Plaid Cymru yw gwahardd contractau dim oriau sy’n ecsploetio er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr Cymru a chyflwyno dyfodol ariannol mwy sefydlog.”