Swyddogion Heddlu Gwent fydd y cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gael hyfforddiant arbennig ar sut i ddelio â phobol sydd yn stelcian eu cynbartneriaid.

Fe fydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan elusen Nework for Surviving Stalking, ar ôl i 250 o bobol yng Nghymru roi gwybod i’r heddlu am stelcwyr yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Cafodd stelcian ei wneud yn drosedd gyfreithiol yn 2012 ar ôl ymgyrch hir i geisio codi ymwybyddiaeth o’r broblem.

Ond mae’r broblem yn bodoli o hyd yn enwedig rhwng cynbartneriaid, yn ôl yr elusen, sydd yn dweud bod 76% o’r menywod sydd yn cael eu lladd gan gynbartner wedi cael eu stelcian ganddynt cyn hynny.

Ddim yn cysylltu â’r heddlu

Er bod 246 o bobol yng Nghymru wedi rhoi gwybod i’r heddlu am stelcwyr posib rhwng Tachwedd 2012 ac Ebrill 2015, dim ond 93 person gafodd eu cyhuddo yn y cyfnod hwnnw.

Yn ôl yr elusen mae’n gallu cymryd dros 100 digwyddiad o stelcian cyn i rywun gysylltu â’r heddlu, ac mae stelcian yn effeithio un o bob chwe dynes ac un o bob 12 dyn yn ystod eu bywydau.

Mae Heddlu Gwent wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol am y ffordd maen nhw wedi delio ag achosion o lofruddiaethau yn erbyn merched gan eu partneriaid neu gynbartneriaid.

Fel rhan o’r hyfforddiant gan Network for Surviving Stalking fe fydd swyddogion yn gwylio ffilm ‘Trouble With an Ex’, gafodd ei chynhyrchu gan yr elusen a’i hariannu gan Gomisiynydd Heddlu Gwent.