Carwyn Jones
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar droed i newid canllawiau iaith cynghorau cymuned, yn dilyn helynt iaith cyngor cymuned yn Sir Ddinbych yn ddiweddar.
Dyna y mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth Gymdeithas yr Iaith, gyda’r mudiad bellach yn galw ar yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i dynnu ei adroddiad yn ôl ar Gyngor Cymuned Cynwyd.
Dywedodd Carwyn Jones y bydd y Llywodraeth yn diweddaru ‘Canllaw y Cynghorydd Da 2012’ erbyn etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017, i “adlewyrchu” egwyddorion Mesur y Gymraeg 2011.
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, hefyd wedi cadarnhau y bydd yn diwygio’r ‘Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ rhyngddi hi a’r Ombwdsmon.
Ffrae Cyngor Cynwyd
Cododd ffrae ar ôl i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ddyfarnu yn erbyn Cyngor Cymuned Cynwyd am gyhoeddi dogfennau uniaith Gymraeg.
Yn ôl Nick Bennett, roedd cael dogfennau’r cyngor yn Gymraeg yn unig yn rhoi siaradwyr di-Gymraeg “dan anfantais” a bod hynny’n mynd yn groes i ganllawiau’r llywodraeth.
Fodd bynnag, mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith, mae Carwyn Jones wedi dweud y bydd newid yn y canllawiau hynny:
“Rwy’n ddiolchgar am eich sylwadau adeiladol ynglŷn â chanllawiau Llywodraeth Cymru ‘Canllaw y Cynghorydd Da 2012: Ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Thref’,” meddai.
“Mae’r canllaw hwnnw yn cynnwys rhai negeseuon cadarnhaol am y Gymraeg … Er hynny, rwyf yn cytuno bod yna le i ddiweddaru’r canllaw i adlewyrchu egwyddorion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
“Bwriad y Llywodraeth yw diweddaru’r canllaw erbyn etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017. Byddwn yn diweddaru’r cynnwys ynglŷn â’r Gymraeg yn y fersiwn hwnnw.”
‘Dim sail’ i benderfyniad yr Ombwdsmon
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith mai “dyma’r hoelen olaf yn arch dadl yr Ombwdsmon,” ac nad oes “canllaw cyfredol yn cyfiawnhau ei benderfyniad.”
“Rydyn ni’n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn ein dadl ac wedi cytuno i ddiweddaru ei chanllawiau,” meddai Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl y mudiad.
“Rydyn ni nawr yn galw ar yr Ombwdsmon i ymrwymo i wneud yr un peth: mae angen iddo dynnu ei adroddiad yn ôl, ac i gydnabod fod ei gamddehongliad o’r gyfraith wedi arwain at benderfyniad gwallus.”
Comisiynydd: “rhoi sail gadarn a chlir”
Daeth cadarnhad hefyd y bydd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws yn diwygio ei memorandwm â’r Ombwdsmon, er mwyn rhoi “sail gadarn a chlir” i drefniadau’r safonau iaith newydd.
“Bydd Safonau’r Gymraeg yn dod yn weithredol i’r 26 sefydliad cyntaf, sef cynghorau sir, Gweinidogion Cymru ac awdurdodau parciau cenedlaethol ar 30 Mawrth eleni,” meddai llefarydd ar ran y Comisiynydd.
“Yn sgil hynny, bydd Polisi Gorfodi’r Comisiynydd yn dod i rym, a hefyd adrannau 20 a 21 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
“Yr adrannau hyn sy’n nodi sut bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio ar y cyd ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac yn gweithio’n gyfochrog ag ombwdsmyn a chomisiynwyr eraill.
“Er mwyn adlewyrchu’r datblygiad statudol yma yn y berthynas rhwng y Comisiynydd a’r Ombwdsmon ac er mwyn rhoi sail gadarn a chlir i’r trefniadau newydd, bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd ym mis Medi 2013 yn cael ei ddiwygio.
“Bydd y diwygiadau’n ymwneud â chydweithredu mewn perthynas ag ymchwiliadau; cynnal ymchwiliad ar y cyd a phrotocol ar rannu data.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw sylw i’w ychwanegu at yr hyn oedd yn y llythyr.