Protest yn erbyn cau ysgolion tu allan i Neuadd Sir Gaerfyrddin
Wrth benderfynu ar dynged dwy ysgol leol y bore ‘ma, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhoi rhagor o amser i gefnogwyr yr ysgolion sefydlu cynllun a fyddai’n sicrhau eu dyfodol.

Bu rhyw 30 o blant ac oedolion yn protestio y tu allan i Neuadd y Sir, yn galw ar y cyngor i beidio â chau Ysgol Gynradd Bancffosfelen ac Ysgol Gynradd Llanedi.

Ac mewn penderfyniad annisgwyl i rai, mae Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant y cyngor wedi penderfynu na fyddan nhw’n mynd ati’n syth i’w cau.

Roedd rhai o’r plant y tu allan i’r neuadd bore ’ma yn protestio:

Sefydlu ysgol gymunedol

Mae llywodraethwyr yr ysgol eisoes wedi cyflwyno cynllun i’r cyngor a fyddai’n golygu sefydlu ysgol gymunedol, wirfoddol i osgoi cau’r ysgol yn gyfan gwbl.

“Rydyn ni fel llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned wedi cyflwyno cynnig amgen i fynd ati i ddatblygu’r ysgol a’r gymuned yn cymryd cyfrifoldeb dros adeiladau’r ysgol,” meddai Aled Davies, cadeirydd bwrdd y llywodraethwyr wrth golwg360.

“Mae’n bosib iddo fe (y cynllun) weithio, mater o ewyllys yw e. ‘Da ni’n mawr obeithio bod ‘na newid wedi bod yn arweinyddiaeth Cyngor Sir Gâr a ‘da ni’n gobeithio y bydd y blaid sy’n rheoli nawr, Plaid Cymru, yn fodlon gwrando a gweithio gyda ni fel cymuned.”

‘Patrwm’ i weddill Cymru?

Os caiff yr ysgol barhau fel ysgol wirfoddol, dyma fydd yr ysgol gyhoeddus gyntaf i wneud hynny, ac maen rhywbeth mae Cymdeithas yr Iaith yn ei gefnogi, sy’n dweud y byddai’n sail i ysgolion eraill ledled y wlad sydd dan fygythiad.

“Mae’n hen bryd bod y Cyngor Sir, yma’n Sir Gaerfyrddin, sydd dan arweiniad newydd bellach, yn gweithio gyda chymunedau i wireddau eu gobeithion yn hytrach na’u gweld nhw fel gelynion,” meddai Ffred Ffransis, oedd yn y brotest ar ran rhanbarth Caerfyrddin o’r mudiad.

“Mae hwn (y cynllun i sefydlu ysgol wirfoddol) yn gallu bod yn batrwm ar gyfer gweddill Cymru, sefydlu ymddiriedolaeth gymunedol i gymryd cyfrifoldeb am adeilad eu hysgol a’i datblygu fel canolfan gymunedol.”

Galw am ‘ddechrau newydd’ yn y sir

Yn dilyn penderfyniad y cyngor, galwodd Cymdeithas yr Iaith am i hyn fod yn “ddechrau newydd” i’r Cyngor, yn hytrach na bod yn fesur dros dro.

“Rydyn ni’n gobeithio nawr y bydd y Cyngor yn rhoi cyfarwyddiadau i swyddogion beidio llaesu dwylo bellach ond i weithio gyda chymunedau i weld sut orau i ddatblygu ysgolion,” meddai Ffred Ffransis eto.

“Mae cymunedau’n newid ac weithiau mae ysgolion yn dewis cau neu mae’n rhaid eu cau ond dylai hynny ddigwydd pan ddaw hi i’r pen, yn hytrach na bod yn ddewis anorfod. Gallai hyn fod yn gam cyntaf tuag at adfywio cymunedau Cymraeg.”