Rhodri Talfan Davies
Mae cyfarwyddwr BBC Cymru wedi dweud na fydd yn ymwneud o gwbl â gweithgareddau’r BBC sy’n ymwneud â refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yn dilyn y cyhoeddiad mai ei dad fydd yn cadeirio’r grŵp Cymreig dros aros yn Ewrop.

Yn ôl llefarydd ar ran BBC Cymru, bydd Rhodri Talfan Davies “yn camu i ffwrdd oddi wrth unrhyw ymwneud â darllediadau’r BBC am ymgyrch y refferendwm ar unwaith.”

Mae hyn er mwyn osgoi “unrhyw awgrym o wrthdaro buddiannau,” meddai’r llefarydd.

Llythyr at y staff

Mewn llythyr at staff BBC Cymru, dywedodd Rhodri Talfan Davies: “Yn anochel, bydd y newyddion yn siŵr o annog cwestiynau am y risg o wrthdaro buddiannau posib.

“Felly roeddwn yn awyddus i roi gwybod i chi fy mod wedi penderfynu camu i ffwrdd oddi wrth unrhyw waith cynllunio a goruchwylio ar gyfer ein harlwy yn ymwneud â’r refferendwm ar unwaith.”

Ei dad, Geraint Talfan Davies, sy’n gyn-reolwr BBC Cymru, fydd cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, ‘Cymru’n Gryfach yn Ewrop’.

Yr AS Ceidwadol, Craig Williams, AS Llafur, Wayne David, a’r ACau Eluned Parrott o’r Democratiaid Rhyddfrydol a Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru yw rhai o aelodau’r grŵp ymgyrchu.

Pennaeth Cynhyrchu BBC Cymru Clare Hudson, fydd yn ymgymryd â rôl cyfarwyddwr y gorfforaeth ar gyfer allbwn y refferendwm.