Goleuadau’r gogledd
Goleuwyd y nos neithiwr wrth i ‘amodau arbennig’ olygu fod ardaloedd eang o Gymru wedi gweld arddangosfa o oleuadau’r gogledd dros nos.

Fel arfer, dim ond rhannau mwyaf gogleddol o’r Alban sy’n gweld yr aurora borealis, ond nos Sul, Mawrth 6, roedd yr olygfa yn glir o rannau helaeth o’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd, roedd y ffenomen i’w gweld oherwydd ‘amodau arbennig’ yn rhan isaf yr atmosffer ac yn y gofod.

Mae’r cyfuniad o borffor, gwyrdd a glas sy’n treiddio drwy’r awyr yn ganlyniad i ronynnau solar sydd wedi eu gwefru ac sy’n rhyngweithio â maes magnetig y Ddaear.