Mae’n debyg bod miliynau o bunnoedd wedi mynd o boced y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i dalu am driniaethau cleifion mewn ysbytai a chlinigau preifat.

Dyna y mae cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi’i ddarganfod , ar ôl i saith o’r byrddau iechyd ddatgelu ffigurau o’r tair blynedd ddiwethaf.

Rhwng 2012 a 2015, fe gafodd 3,300 o gleifion y Gwasanaeth Iechyd driniaeth mewn ysbytai a chlinigau preifat.

Dywedodd Elin Jones, llefarydd iechyd y blaid, bod angen rheoli rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn well, i drin cleifion yn fwy prydlon.

Y costau

Bwrdd Hywel Dda a dalodd am y nifer fwyaf o driniaethau, 874 i gyd, er mwyn lleddfu rhestrau aros am wasanaeth orthopedig ac offthalmoleg.

Costiodd y triniaethau hyn rhwng £1,200 a £6,100 yr un i’r bwrdd iechyd.

772 o driniaethau a dalodd Bwrdd Iechyd Abertawe a Bro Morgannwg amdanynt, gan gostio cyfanswm o £3,515,042.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi talu am 389 o driniaethau i gyd, a gostiodd £923,086. Tra bod Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi talu am 459 a gostiodd £525,000 iddo.

Talodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro am 290 o driniaethau preifat, gan arwain at gost o £420,000, ond dim ond y ffigurau ar gyfer 2014-2015 oedd ar gael.

Dim ond ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hefyd, a dalodd £1,176,000 am 394 o driniaethau.

Y swm lleiaf oedd gan Bowys, a dalodd £373,850 am 172 o driniaethau preifat rhwng 2012 a 2015.

Angen i Lywodraeth Cymru ‘flaenoriaethu’

“Os yw pobl mewn poen ac yn aros hydoedd am driniaethau, yna rwy’n llawn ddeall y defnydd o ysbytai a chlinigau preifat,” meddai Elin Jones AC.

“Ond triniaethau yw’r rhain ddylai gael eu gwneud yn ysbytai’r GIG. Mae angen gwella gallu mewnol, gan reoli rhestrau aros yn well er mwyn i ni allu trin cleifion yn brydlon.

“Mae angen creu gwasanaeth orthopedig ac offthalmoleg effeithiol yn y GIG – dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflogi 1,000 yn ychwanegol o feddygon a 5,000 o nyrsys i fynd i’r afael â phroblem prinder staff meddygol yn ein hysbytai.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.