Clint Simms
Mae disgwyl i ddyn fynd gerbron llys ynadon heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn Nhrelái, Caerdydd wythnos ddiwethaf.

Cafwyd hyd i Clint Simms, 39 oed, wedi’i anafu ar ôl cael ei drywanu yn Heol Glyndwr, Trelái am 11.31yb ar ddydd Iau, 3 Mawrth.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon a Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru bu farw yn y fan a’r lle.

Mae Stephen John Pike,  58 oed, wedi’i gyhuddo o’i lofruddio a hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o fod a chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, 7 Mawrth.

Mae teulu Clint Simms yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Dywed Heddlu’r De eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth eu ffonio ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod *074040.