Mae ymgyrch i annog mwy o yrwyr a theithwyr i wisgo gwregysau diogelwch yn dechrau heddiw.
Fe fydd lluoedd Heddlu Cymru yn cadw golwg lymach ar bobl nad sy’n gwisgo gwregysau diogelwch, gan atgoffa y gall pobl gael dirwyon o £100 ynghyd â’u herlyn os nad ydynt yn eu gwisgo.
Cafodd mwy na 1,200 o bobl ar draws Cymru eu stopio’r llynedd am beidio â gwisgo gwregys diogelwch. Roedd 724 o’r rheiny yn ardal Dyfed Powys, 360 yn ne Cymru, 140 yng ngogledd Cymru a 41 yng Ngwent.
Cyfrifoldeb y gyrrwr ydy plant o dan 14 oed nad sy’n gwisgo gwregysau diogelwch.
‘Cofio eu cyfrifoldebau’
“Mae angen i fodurwyr a theithwyr fod yn ymwybodol o’r perygl maen nhw’n rhoi eu hunain ynddo bob tro maen nhw’n teithio mewn car heb wisgo gwregys diogelwch,” meddai’r Arolygydd Steve Davies o Uned Heddlua’r Ffyrdd, Heddlu De Cymru.
“Gall y rheiny nad sy’n gwisgo gwregysau diogelwch wrth yrru neu deithio gael dirwy neu eu herlyn.
“Dylai gyrwyr gofio eu cyfrifoldebau, ac mae’n ofynnol iddyn nhw sicrhau bod pob un maen nhw’n eu cludo yn y cerbyd wedi eu diogelu yn briodol.”
Mae’r ymgyrch Gwregysau Diogelwch ledled Cymru yn rhedeg ar y cyd ag ymgyrch yn Ewrop yr wythnos hon, sef TISPOL, Rhwydwaith Ewropeaidd yr Heddlu ar Draffig.