Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru
Mae disgwyl i UKIP gyhoeddi heddiw pwy fydd eu hymgeiswyr rhanbarthol ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru ym mis Mai.

Daw hyn yn dilyn ffrae ddiweddar yn erbyn bwriad arweinyddiaeth y blaid yn Llundain i gael enwau amlwg o Loegr i sefyll yng Nghymru.

Mae nifer o’r ymgeiswyr wedi beirniadu hyn gan alw am ymddiswyddiad yr arweinydd yng Nghymru, Nathan Gill, am ‘beidio dangos arweiniad’.

‘Cadarnle cyntaf’

Un wnaeth feirniadu polisi’r blaid oedd y Cynghorydd Keith Mahoney o Gyngor Bro Morgannwg a ddywedodd nad oedd am gael ei gysylltu â “pharasitiaid gwleidyddol fel Neil Hamilton a Mark Reckless”.

Am hynny, fe gafodd ei enw ei dynnu oddi ar restr ymgeiswyr ei blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ddechrau mis Chwefror.

Er hyn, mae disgwyl i UKIP ennill tir yn etholiadau’r Cynulliad, gyda’r blaid yn cyhoeddi mewn cynhadledd ddiwedd mis Chwefror yn Llandudno eu bod am greu eu “cadarnle gwleidyddol cyntaf” yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Chwe blaenoriaeth

Mae’r blaid hefyd wedi cyhoeddi eu chwe blaenoriaeth ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, sy’n cynnwys llai o weinyddwyr yn y Gwasanaeth Iechyd ac ailddechrau ysgolion gramadeg.

  • Llai o weinyddwyr yn y Gwasanaeth Iechyd.
  • Refferendwm cyn rhoi hawliau trethu i Lywodraeth Cymru.
  • Dim rhagor o Aelodau Cynulliad.
  • Atgyfodi ysgolion gramadeg a cholegau technegol.
  • Cael gwared ar dollau Pontydd Hafren.
  • Rhoi datblygu economaidd yn nwylo llywodraeth leol.