Paul Flynn AS (llun o'i wefan)
Mae’r Aelod Seneddol Paul Flynn yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi adroddiad cyfrinachol ar lygredd yn Heddlu Llundain wrth iddo geisio atebion i lofruddiaeth a ddigwyddodd 29 mlynedd yn ôl.

Ditectif preifat o Lanfrechfa yn etholaeth Paul Flynn yng Nghasnewydd oedd Daniel Morgan, a gafodd ei lofruddio yn ne Llundain ar 10 Mawrth 1987.

“Mae’r sawl a oedd yn euog yn dal heb gael eu hadnabod,” meddai Paul Flynn ar ei flog.

“Yr allwedd i ddeall y llygredd anhygoel a oedd yn Heddlu Llundain yn y gorffennol yw Adroddiad Tiberius, sy’n dal yn gyfrinachol.

“Dw i’n meddwl fy mod i’n un o ddim ond dau AS sydd wedi ei ddarllen yn llawn.”

Dywedodd ei fod ef a Keith Vaz wedi cael ei ddarllen o dan wyliadwriaeth lem yr heddlu, a’i fod yn cynnwys enwau, rhengoedd a rhifau plismyn mewn grwpiau a oedd yn cynnwys gangiau o droseddwyr.

Ymchwilio i lygredd yr heddlu

Yn ôl Paul Flynn, roedd Daniel Morgan yn ymchwilio i lygredd yr heddlu gan gafodd ei lofruddio.

“Bwlch arwyddocaol yn adroddiad Tiberius yw nad oes unrhyw sôn am droseddau’r heddlu yn ne Llundain, lle bu farw Daniel,” meddai Paul Flynn.

“Mae’n sicr fod yr heddlu’n gwybod am lofruddiaeth Daniel, ac o bosibl wedi chwarae rhan ynddo.”

Dywed Paul Flynn y byddai dydd Iau nesaf, 29 mlynedd i’r diwrnod, yn ddiwrnod addas i’r Llywodraeth ac i Heddlu Llundain esbonio i deulu Daniel Morgan a oes unrhyw obaith i’w lofruddion gael eu henwi a’u dal.

Mae wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref yn gofyn am ddatganiad a chyhoeddi fersiwn wedi’i olygu o Adroddiad Tiberius.