Cyngor Gwynedd
Mae cynghorwyr Gwynedd wedi cytuno i doriadau o bron i £5 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn heddiw, dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod wedi cymeradwyo cyllideb yr awdurdod ar gyfer 2016/17 ynghyd â strategaeth ariannol “i fynd i’r afael â’r pwysau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r cyngor dros y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd arweinydd y cyngor Dyfed Edwards nad oedd dewis ond “troi at fesurau anodd i gyflawni ein dyletswydd gyfreithiol i osod cyllideb gytbwys.”

Er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg sylweddol, mae’r Cyngor wedi cymeradwyo strategaeth sy’n anelu at ddarparu dros £14 miliwn o arbedion effeithlonrwydd ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y bwlch sy’n weddill yn cael ei bontio drwy gyfuniad o gynnydd 3.97% mewn treth y cyngor ynghyd a rhaglen o doriadau i wasanaethau o £4.94 miliwn.

Bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yn golygu bod eiddo Band D yn gweld cynnydd yn eu bil o £3.84 y mis neu £46.09 y flwyddyn.

‘Gwrando’n ofalus’

Dywed yr awdurdod eu bod wedi “gwrando’n ofalus ar yr hyn mae pobl leol wedi ei ddweud wrthym” yn ystod yr ymgynghoriad Her Gwynedd diweddar, a cheisio “gwarchod gwasanaethau rheng flaen hyd eithaf ein gallu.”

Fel rhan o ymgynghoriad Her Gwynedd, roedd dros 2,700 o unigolion a sefydliadau wedi dychwelyd yr holiadur ymgynghori neu fynychu un o 32 o gyfarfodydd lleol, tra bod dros 100 o sefydliadau ac unigolion wedi cyflwyno tystiolaeth ac adborth.

Ychwanegodd Dyfed Edwards: “O ganlyniad , mae’r mwyafrif helaeth o’r toriadau gwasanaeth y bydd yn rhaid i ni weithredu yn cyfateb i’r dewisiadau toriadau a dderbyniodd y lleiaf o gefnogaeth gan bobl leol yn yr ymgynghoriad.

“Yn ogystal, mae nifer o wasanaethau wedi cael eu tynnu’n ôl o’r rhestr o doriadau oherwydd eu pwysigrwydd i sector allweddol penodol neu i ardal benodol o’r sir. Mae opsiynau eraill wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr toriadau gan gynghorwyr neu wedi eu diwygio, er enghraifft er mwyn amddiffyn grwpiau bregus fel plant anabl.

“Yn olaf, penderfynodd y Cyngor llawn na ddylai nifer fechan o doriadau gael gweithredu yn syth er mwyn caniatáu mwy o amser i ystyried opsiynau newydd i gynnal rhai gwasanaethau yn y dyfodol.”

Sgrech Gwynedd

Roedd ymgyrch Sgrech Gwynedd, sy’n gwrthwynebu toriadau i’r celfyddydau yn y sir, wedi  cyflwyno deiseb i’r Cyngor heddiw, ag arni 2,303 o enwau.

Yn ôl Sgrech Gwynedd, gallai dorri 50% oddi ar grantiau i’r celfyddydau yng Ngwynedd achosi i 230 o bobol golli eu gwaith ac y byddai 752 yn llai o weithgareddau Cymraeg ar gael yn y sir.