Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i lofruddiaeth dynes 65 oed yn ardal Bae Caerdydd.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn fflat yn Century Wharf yn y Bae tua 2.15yp ddydd Mercher, 2 Mawrth.

Mae dyn 66 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod am ei marwolaeth ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Mae’r heddlu wedi cyfeirio’r mater yn wirfoddol at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod *072884.