Y Preifat Cheryl James
Mae un o’r bobl olaf i weld y Preifat Cheryl James o Langollen wedi dweud wrth y cwest i’w marwolaeth ei bod hi’n edrych yn “drist” a “digalon” ar y diwrnod y bu farw.

Cafodd y Corporal Ian Wilkinson ei stopio gan Cheryl James wrth fynedfa barics Deepcut yn Surrey wrth iddo yrru i’w waith ar 27 Tachwedd, 1995.

Dywedodd milwr arall, y Rhingyll Phil Wood, ei fod o wedi cyrraedd y fynedfa ar droed yn fuan wedyn ond doedd Cheryl James na neb arall yn gwarchod y fynedfa.

‘Digalon’

Meddai Ian Wilkinson wrth y cwest fod Cheryl James yn “edrych yn ddigalon”.

Ychwanegodd mai’r tro cyntaf wnaeth o siarad am y digwyddiad oedd yn 2003.

Cafwyd hyd i’r Preifat Cheryl James, 18 gyda bwled yn ei phen ym mis Tachwedd 1995 – roedd hi’n un o bedwar o filwyr ifanc a fu farw yng nghanolfan hyfforddiant y fyddin yn Surrey dros gyfnod o saith mlynedd.

Mae’r cwest yn parhau.