Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn gael ei drywanu yn ardal Trelái yng Nghaerdydd heddiw.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am tua 11:30 bore dydd Iau a chafwyd hyd i ddyn wedi’i anafu ar Ffordd Glyndŵr yn yr ardal.

Cafodd heddlu arfog eu hanfon i’r safle hefyd i sicrhau bod swyddogion yr heddlu a’r cyhoedd yn ddiogel.

Mae’r dynion sydd wedi’u harestio bellach yn y ddalfa ac mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.