Mae ymgyrchwyr sydd yn erbyn cau ysgol gynradd yn sir Gaerfyrddin wedi galw ar y Cyngor i sefydlu Ymddiriedaeth Gymunedol, a fyddai’n golygu bod yr ysgol yn gweithredu fel un wirfoddol sy’n cael ei chynorthwyo.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi estyn ei chefnogaeth i’r syniad ac wedi galw ar y Cyngor i ystyried gweithio gyda llywodraethwyr a’r gymuned leol i wireddu’r syniad.
“Gall hwn fod yn gynllun peilot a fydd yn rhoi gobaith i lawer o’n cymunedau pentrefol Cymraeg,” meddai Ffred Ffransis, o ranbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith.
“Mae cyfle i arweinwyr newydd y Cyngor ddangos eu bod yn barod i weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau lleol i sicrhau dyfodol byw iddynt.”
Cau ysgol, dirywio pentref?
Mae cymuned yr ysgol wedi bod yn brwydro i’w chadw ar agor ers 12 mlynedd, ers i’r Cyngor Sir ei rhoi ar restr o ysgolion i ystyried eu cau.
“Mae cyfle i’r Cyngor dorri’r cylch dieflig o ddatgan bwriad i gau ysgol,” meddai Ffred Ffransis yn ei lythyr at gadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Eirwyn Davies.
“… sydd yn ei dro’n golygu fod rhieni’n symud eu plant, sy’n golygu wedyn fod ysgol yn cau a bod teuluoedd ifainc eraill yn llai parod i brynu tai mewn pentre heb ysgol.
“Fel hyn y mae ein cymunedau pentrefol wedi dirywio, ac mae rhieni ac eraill yn colli teimlad o berchnogaeth ar addysg eu plant.”
Cyfarfod dydd Mercher
Bydd Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant y Cyngor yn trafod cau’r ysgol ddydd Mercher nesaf, yn dilyn adroddiad sy’n argymell ei chau erbyn diwedd mis Awst 2017.
Erbyn hyn, 35 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol, ac yn ôl y Cyngor, mae ganddi 64% o lefydd gwag.
Pe bai’r ysgol yn cau, yr ysgol gynradd agosaf i’r plant yw Ysgol Pontyberem, sydd tua milltir a hanner i ffwrdd.
“Yn lle dewis yr opsiwn biwrocrataidd rhwydd o gynnig cau ysgol, mae gan swyddogion y sir gyfle gwirioneddol i gydweithio gyda llywodraethwyr brwd i ddatblygu model newydd mewn partneriaeth a chymuned leol,” ychwanega Ffred Ffransis.