Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin nos Fercher.
Bu farw’r dyn ar ôl i fan Citroen wen wrthdaro â choeden ar ffordd y B4317 rhwng Pontyberem a’r Tymbl.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn credu bod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng 9.10yh a 9.20yh nos Fercher, 2 Mawrth ac maen nhw’n apelio am unrhyw dystion.
Maen nhw’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi teithio ar hyd y rhan honno o’r ffordd tua’r un cyfnod, neu sydd â gwybodaeth a allai fod o help gyda’u hymchwiliad i’w ffonio yn Adran Plismona’r Ffyrdd ar 101.