Mae rheolwraig arlwyo mewn carchar yn Abertawe, a gafodd ei hanafu pan wnaeth carcharor ollwng sach o reis ar ei chefn drwy ddamwain, wedi ennill ei brwydr i hawlio iawndal.

Gwrthododd pum barnwr y Goruchel Lys yn Llundain apêl gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros p’un a oedd y gwasanaeth carchardai yn gyfrifol dros esgeulustod y carcharor.

Digwyddodd y ddamwain ym mis Medi 2007, pan oedd Susan Cox yn gweithio fel  rheolwraig arlwyo yng Ngharchar ei Mawrhydi Abertawe.

Pan gyrhaeddodd cyflenwadau i’r gegin ar lawr gwaelod y carchar, gofynnodd i bedwar carcharor eu cario i’r gegin i fyny’r grisiau.

Cafodd sach o reis ei ollwng gan un o’r carcharorion, gan achosi iddo rwygo ar agor.

Pan blygodd Susan Cox i nôl y sach, fe geisiodd carcharor arall gario dau sach a cherdded heibio, ond fe gwympodd gan ollwng un o’r sachau ar ei chefn.

Disodli’r achos gwreiddiol

Yn dilyn y digwyddiad, ceisiodd Susan Cox hawlio iawndal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llys Sirol Abertawe.

Ar y dechrau, fe wnaeth barnwr ollwng yr achos ar y sail nad oedd y gwasanaeth carchardai yn gyfrifol gan fod y berthynas rhwng y gwasanaeth a’r carcharor “ddim yn debyg i un rhwng cyflogwr a gweithiwr.”

Ond yn 2014, cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi gan y Llys Apêl, gan gadarnhau mai’r gwasanaeth carchardai oedd yn gyfrifol am esgeulustod y carcharor wedi’r cwbl.

Fe wnaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder herio’r Llys Apêl, ond cafodd ei ollwng ddydd Mercher gan y llywydd, yr Arglwydd Neuberger, yr is-lywydd, yr Arglwyddes Hale, yr Arglwydd Dyson, yr Arglwydd Reed a’r Arglwydd Toulson.