Craig Roberts, Edward Maher, a James Dunsby
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn wynebu cerydd swyddogol dros farwolaethau tri milwr ym Mannau Brycheiniog yn 2013.

Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y bydd yn cyhoeddi Cerydd gan y Goron, ar ôl i’r dynion golli eu bywydau ar un o ddiwrnodau poethaf 2013.

Bu farw’r is-gorpral Craig Roberts, yn wreiddiol o Fae Penrhyn, a’r is-gorpral Edward Maher o Winchester yn y bryniau wrth ymarfer gyda’r SAS.

Tra bu farw’r corporal James Dunsby, o Trowbridge, yn Ysbyty Brenhines Elizabeth yn Birmingham wedi i’w organau fethu fwy na phythefnos ar ôl yr ymarferiad ar 13 Gorffennaf.

“Methu rheoli peryglon”

“Mae unedau milwrol arbenigol yn iawn i brofi ffitrwydd a gwydnwch ymgeiswyr posib. Dydy iechyd a diogelwch ddim am stopio pobol rhag gwneud gwaith peryglus na rhag bod yn barod ar gyfer dyletswyddau’r fyddin,” meddai Neil Craig o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

“Fodd bynnag, mae cynnal profion o’r math yma yn gorfod cael eu rheoli’n effeithiol.

“Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ddyletswydd i reoli’r peryglon yn ystod ymarferion hyfforddi. Fe fethodd gwneud hynny yn yr achos hwn.”

Ychwanegodd fod yr Awdurdod wedi bod yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau ei bod wedi “dysgu gwersi” a “sut y gall leihau’r risg o drychinebau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.”