Stephen Crabb fel y James Bond nesa?
Stephen Crabb fel y James Bond nesaf, Gŵyl y Banc i Ddydd Gŵyl Dewi a dadleuon am Ewrop oedd rhai o’r pethau ar blât y Prif Weinidog David Cameron mewn derbyniad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Downing Street heddiw.

Mewn cyfweliad arbennig â chylchgrawn Golwg, fe ddywedodd David Cameron ei fod yn cydnabod fod galw am ddynodi Mawrth 1 yn ŵyl banc, a hynny wedi i AS Ceredigion Mark Williams gyflwyno’r syniad mewn Cynnig Deg Munud yn y Senedd heddiw.

“Mae ’na lawer wedi bod yn pwyso arnaf i gael Gŵyl Banc ar Ddydd Gŵyl Dewi. Ond, mi ydw i’n pendroni am y mater.

“Y peth sy’n rhaid meddwl amdano yw’r effaith ar yr economi. Mae colli diwrnod o waith yn ergyd fawr i’r economi,” meddai David Cameron.

Crabb – y Bond nesaf?

Fe groesawodd David Cameron y cyhoeddiad fod cwmni ceir Aston Martin am agor ffatri newydd yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, gan greu mwy na 750 o swyddi.

“Mae ceir James Bond yn mynd i gael eu hadeiladu yng Nghymru, y cyfan dy’n ni angen nawr ydy James Bond Cymreig,” meddai gan gynnig y rôl i Stephen Crabb.

“Dw i wastad wedi dweud wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn edrych yn debyg i Russell Crowe.

“Mae wastad rhaid i ti gael gyrfa wrth gefn mewn gwleidyddiaeth Stephen,” meddai wrtho.

Fe ddywedodd fod “llawer i fod yn falch ohono yn y wlad” ac y byddai cael 007 Cymreig yn gyflawniad arbennig arall.

Ewrop

Aeth ymlaen i gydnabod y byddai Cymru ar ei cholled o adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae ’na swyddi yng Nghymru a ffermwyr yn ddibynnol ar Ewrop. Byddai Cymru ar ei cholled o dynnu allan.

“Meddyliwch beth y gallai hynny olygu i fusnesau Cymru a chyflogadwyedd.”