Carwyn Jones
Yn dilyn cyhoeddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru  ddoe ynglŷn â’r Mesur Drafft, fe ddywedodd Carwyn Jones nad oedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn unrhyw wybodaeth o flaen llaw nac am yr hyn fydd yn digwydd nesaf.

Er hyn, mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad am yr oedi gan esbonio ei fod yn “gyfle i atgyweirio’r niwed a wnaed yn y broses oedd â diffygion, a chreu deddf sy’n golygu rhywbeth.”

Dywedodd Stephen Crabb ddoe y byddai’n gohirio cyflwyno’r Mesur Drafft tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai er mwyn cyflwyno newidiadau.

Byddai’r rheiny’n cynnwys adolygu’r rhestr o bwerau fydd yn cael eu ‘cadw nôl’ gan San Steffan, a chael gwared â’r ‘prawf rheidrwydd’ cyn i’r Cynulliad allu deddfu ar gyfreithiau troseddol neu breifat.

‘Gofyn am ddialog’

Er hyn, fe ddywedodd Carwyn Jones fod y cyhoeddiad yn “parhau’n aneglur,” oherwydd er diddymu’r prawf rheidrwydd – “ni allaf ddychmygu sefyllfa lle na fydd unrhyw gyfyngiadau ar bwerau’r Cynulliad i addasu cyfraith droseddol a phreifat.”

Pwysleisiodd fod angen i’r mater am ddatganoli pwerau Gweinidogol a’r rhestr am bwerau sy’n cael eu ‘cadw’n ôl’ gael eu cytuno rhwng y ddwy lywodraeth.

Ond, “mae hynny’n gofyn am ddialog,” meddai’r Prif Weinidog.

“Os bydd y broses hon yn parhau’n fewnol i Lywodraeth y DU, does gen i ddim hyder na fydd hwn yn Fesur arall wedi ei wneud i Gymru, yn hytrach na gyda Chymru.”

O ran yr awdurdodaeth gyfreithiol, fe ddywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cael eu cynrychioli  yn y grŵp gweithredu, “ond dy’n ni ddim wedi clywed dim eto.”

‘Galw am gydweithio’

Mewn blog ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, fe alwodd Alun Davies, AC Llafur Blaenau Gwent am fwy o gydweithio rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno Mesur Drafft Cymru.

Mae am weld cytundeb neu gorff yn cael ei sefydlu rhwng y Cynulliad a’r Senedd a fyddai’n adolygu ac yn cytuno ar y mesur cyn ei gyflwyno.

“Dylai’r Mesur gael ei wneud yng Nghymru, nid yn unig ei gyflwyno i Gymru.”

Fe gyfeiriodd at waith asesu’r Mesur Drafft a waned gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad.

“Byddai’r model hwnnw’n fodel da i’w gofio un ai ar gyfer y cyfarfod cyn ei ddiddymu neu ei adfywio [Y Mesur Drafft] unwaith y caiff y Cynulliad newydd eu hethol ar Fai 5.”

“Wrth wneud hynny, gan gyrraedd at gonsensws eang ar draws y pleidiau, byddai gan y mesur newydd gyfradd o gyfreithlondeb y mae’r Mesur Drafft wedi methu ei orchymyn. A byddai o leiaf yn help i geisio cadw’r rhai sy’n creu helynt yn dawel.”

Refferendwm trethi

 

Fe ychwanegodd Stephen Crabb ddoe y byddai’n cael gwared â’r angen i gynnal refferendwm cyn datganoli pwerau treth incwm i Gymru.

Esboniodd ei fod am weld Cymru a Lloegr yn parhau’n un uned o ran cyfraith a’r llysoedd, ond y byddai’n creu grŵp gwaith i ystyried cyfreithiau oedd yn benodol i Gymru.

Mewn ymateb i hynny, fe ddywedodd Alun Davies: “Mae’n rhaid iddo gydnabod fod mynnu refferendwm dros fater yr awdurdodaeth sydd braidd yn aneglur, tra ar yr un pryd yn gwrthod yr angen am refferendwm am bwerau trethi – ddim â llawer o hygrededd na chydlyniad deallus. Gwell ei roi yn yr un bin a’r prawf rheidrwydd.”

‘Gwireddu’n gyflymach’

Fe ychwanegodd Alun Davies yr hoffai weld y mesur yn cael ei gwireddu’n gyflymach.

“Yn yr Alban, mae etholiad yn cael ei chynnal gyda’r pwerau’n cael eu cyhoeddi, eu trafod, eu deddfu a’u gwireddu o fewn llai na dwy flynedd.

“Yn syml, dyw hi ddim yn dderbyniol fod rhaid inni aros o leiaf pum mlynedd yng Nghymru am bwerau llawer llai.

“Drwy weithio gyda’n gilydd fe fydd y newidiadau y mae’r rhan fwyaf o bobol eu hangen yn gallu cael eu gwneud, a hynny drwy ganiatâd a chefnogaeth. Mae nawr yn fater i’r Ysgrifennydd Gwladol estyn at Gymru a chydweithio.”