Mae apêl ar y gweill i godi arian er mwyn trwsio Pier Llandudno yn dilyn Storm Darragh dros y penwythnos.

Roedd rhybudd coch mewn grym ddydd Sadwrn (Rhagfyr 7), gyda gwyntoedd o hyd at 90m.y.a. mewn rhai ardaloedd yn peryglu bywydau, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae ysgolion ledled Cymru ynghau heddiw, nifer fawr o dai heb drydan, a gwasanaethau ledled y wlad wedi cael eu heffeithio o hyd wrth i Gymru ddechrau cyfri’r gost.

‘Difrod sylweddol’

Yn ôl tudalen codi arian GoFundMe sydd wedi cael ei sefydlu, mae “difrod sylweddol” wedi cael ei achosi i’r pier.

“Mae hyn am gymryd amser hir i’w drwsio, ar gost fawr,” meddai Pier Llandudno ar y dudalen, sydd wedi denu dros £10,000 hyd yma.

“Yn ystod ein cyfnod, dydy Pier Llandudno ddim wedi derbyn unrhyw grantiau nac arian gan y Llywodraeth tuag at drwsio neu waith cynnal a chadw.

“Bydd y pier yn 150 oed yn 2027, ac mae angen eich help chi arnom.”

‘Torcalonnus’

Mae Paul Williams, rheolwr cyffredinol Pier Llandudno, yn dweud bod y difrod sydd wedi’i achosi’n “dorcalonnus”.

“Fydd graddau’r difrod ond yn dod yn glir pan fyddwn ni’n medru archwilio oddi tano,” meddai.

“Dydy’r Pier heb ei yswirio ar gyfer y math yma o ddigwyddiadau (difrod mewn stormydd), gwaetha’r modd, gan nad oes yna’r fath yswiriant ar gyfer pier.

“Bydd yn rhaid i chi fod yn amyneddgar gan y gallai gymryd peth amser i gwblhau’r archwiliadau ac atgyweiriadau helaeth.

“Unwaith eto, diolch am eich negeseuon caredig a’ch cefnogaeth barhaus.”