Mae Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, yn rhybuddio y gallai effeithiau Storm Darragh fod yn arwyddocaol iawn ac yn annog pobl i fod yn ofalus y penwythnos hwn.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch prin am wyntoedd cryf iawn fydd yn effeithio ar Ogledd, Gorllewin a De Cymru rhwng 3yb ac 11yb ddydd Sadwrn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhybuddion Ambr am lifogydd mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys y rhai a gafodd eu taro gan Storm Bert ddiwedd mis Tachwedd.
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, “Mae rhybuddion coch yn cael eu cyhoeddi pan fydd bygythiad posib i fywyd, ac felly mae’n hanfodol bod pobl yng Nghymru yn gwrando ar y rhybuddion ac yn cymryd gofal mawr iawn os ydyn nhw’n teithio ddydd Sadwrn.
“Mae awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi eu trefniadau parodrwydd ar waith, yn barod ar gyfer Storm Darragh. Rwy’n annog pawb i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod pa lefel o rybudd sydd ar waith yn eu hardal ac i ddilyn yr holl gyngor swyddogol.
“Byddwn yn monitro’r sefyllfa’n ofalus ac yn rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen i’r asiantaethau gyda’u hymateb”.
Mae Cyngor Ceredigion hefyd yn cynghori trigolion ac ymwelwyr i gadw’n ddiogel ac osgoi teithio ar y ffyrdd yn ystod amodau tywydd peryglus, oherwydd peryglon difrod eang a tharfu ar bŵer a theithio. “Mae bod tu allan mewn gwyntoedd cryfion yn beryg; arhoswch dan do os yw hyn yn bosib” yw’r gair i gall.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd eu holl ganolfannau ymwelwyr, coetiroedd, llwybrau a meysydd parcio ar gau ddydd Sadwrn oherwydd y risg i ddiogelwch y cyhoedd.
Er nad oes disgwyl effeithiau llifogydd arfordirol ar hyn o bryd, maen nhw’n annog pobl i fod yn wyliadwrus gan bwysleisio, “Cadwch draw oddi wrth lan y môr a phromenadau oherwydd y risgiau a achosir gan y tonnau mawr disgwyliedig a achosir gan y gwyntoedd stormus”.
Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol bob chwarter awr yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd
Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael trwy ffonio gwasanaeth 24 awr Floodline ar 0345 988 1188