Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o gyhoeddi Lora Jên Pritchard fel Llysgennad Addysg Bellach Cenedlaethol, yn ogystal â thri Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25
Mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth eu cyfoedion yn y coleg a thu hwnt o fanteision astudio a hyfforddi’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ym myd gwaith wedyn.
Bydd y llysgennad cenedlaethol yn cynrychioli llais dysgwyr addysg bellach yn genedlaethol hefyd.
Ymhlith criw newydd Grŵp Llandrillo Menai eleni bydd Llysgennad Addysg Bellach Cenedlaethol Lora Jên Pritchard, a Llysgenhadon Addysg Bellach sef Alaw Robyns, Cadi Edwards a Bethan James.
Meddai Lora Jên:
“Mae’n fraint cael fy mhenodi’n Lysgennad ar ran Coleg Glynllifon. Gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, mae’n anrhydedd cael y cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg yn y Coleg, a hybu pwysigrwydd gwneud y cwrs yn y Gymraeg yn ogystal â chymdeithasu er mwyn gallu cerdded i swydd yn y dyfodol yn hyderus i weithio yn y Gymraeg!
“Dwi’n edrych ymlaen i gynnal a bod yn rhan o ddigwyddiadau’r Coleg a thu hwnt er mwyn rhannu fy sgiliau yn ehangach, a rhoi profiad gwych trwy gyfrwng y Gymraeg i bawb yn y Coleg!”
Meddai Cadi:
“Braint ac anrhydedd yw cael fy newis i fod yn Lysgennad. Dwi’n edrych ymlaen at fod yn llais i fyfyrwyr ifanc. Y cyngor gorau alla i ei roi i unrhyw un ydi ’mae’n well difaru gwneud rhywbeth na difaru peidio â gwneud rhywbeth’.”
Meddai Alaw:
“Dw i’n falch a gael bod yn llysgennad ac yn edrych ymlaen yn arw at feithrin y Gymraeg yn y coleg ac ymhlith y myfyrwyr.”
Meddai Bethan:
“Dw i wrth fy modd ’mod o gael fy newis yn Llysgennad i’r Coleg. Dw i’n teimlo’n ofnadwy o lwcus i gael cyfle i gryfhau a datblygu’r Gymraeg er lles myfyrwyr y Coleg.”
Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith y mis yma, ac yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg a Grŵp Llandrillo Menai mewn amryw o ddigwyddiadau, yn creu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol, a chynnig syniadau ar sut i hybu’r Gymraeg o fewn eu colegau unigol.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnig cyfleoedd di-ri i fagu eu hyder a’u sgiliau, ac i fod yn rhan o gymuned Gymraeg eu colegau.
Eleni, mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi deugain o lysgenhadon ar draws 12 coleg addysg bellach, yn cynnwys 4 Llysgennad Cenedlaethol. Mae Elin Williams, Rheolwr Marchnata’r Coleg yn falch i weld y cynllun yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn.
Meddai:
“Mae’r cynllun llysgenhadon addysg bellach yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o golegau a’u dysgwyr yn frwdfrydig iawn i fod yn rhan o’r cynllun.
“Erbyn hyn rydym yn cydweithio gyda cholegau o bob cwr o Gymru, ac mae’n braf gweld y berthynas yn dwyn ffrwyth.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â’r criw newydd o lysgenhadon a’r llysgenhadon cenedlaethol ac yn gobeithio’n fawr y byddant yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn eu coleg a thu hwnt i ddefnyddio ac i fod y falch o’i sgiliau dwyieithog.”
I wybod mwy am y llysgenhadon ac dilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.
Tik Tok, Instagram, X a Facebook: @colegcymraeg