Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru Llun: Emyr Llewelyn Jones
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi pwy fydd yn olynu Gillian Clarke fel Bardd Cenedlaethol nesaf Cymru.

Y bardd Ifor ap Glyn, o Gaernarfon, fydd yn ymgymryd â’r swydd, gan ddechrau ar ei waith ym mis Mai 2016.

Bydd ei waith yn cynnwys hyrwyddo barddoniaeth Cymraeg a Chymreig ar lwyfannau Cymru a’r byd, gan ymateb i unrhyw ddigwyddiadau nodedig a chodi proffil llenyddiaeth a llenorion Cymru.

Mae Awdur Ieuenctid Cymru, menter a gafodd ei sefydlu yn 2011 i ddatblygu sgiliau llythrennedd a chyfathrebu plant, wedi cael ei phenodi hefyd, gyda Sophie McKeand yn dechrau ym mis Ebrill 2016.

Cafodd Bardd Cenedlaethol Cymru ei sefydlu yn 2005, gyda Gwyneth Lewis yn cyflawni’r swyddogaeth am y tro cyntaf. Gwyn Thomas a ddaeth ar ei hôl yn 2006, a Gillian Clarke sydd wedi bod wrth y llyw ers 2008.

Wedi’i eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, mae Ifor ap Glyn yn fardd, cyflwynydd a chyfarwyddwr gyda Chwmni Da yng Nghaernarfon.

Mae’n Brifardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – y tro cyntaf yn 1999 ac yn fwyaf diweddar yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013.

Roedd hefyd yn Fardd Plant Cymru rhwng 2008 – 2009.

Yn dilyn sefydlu’r bardd cenedlaethol, y bwriad oedd cael beirdd i ganu’n Gymraeg am yn ail, felly bydd Ifor ap Glyn yn perfformio y rhan fwyaf o’i waith yn Gymraeg.

Ysgrifennu yn Gymraeg ‘ddim yn rhwystr’

“Mae Gillian wedi dyrchafu rôl y Bardd Cenedlaethol ers ei phenodiad yn 2008, a hoffwn ddiolch iddi am ei hymdrechion diflino i hyrwyddo barddoniaeth a llenyddiaeth Cymraeg gartref ac ar lwyfan rhyngwladol,” meddai Ifor ap Glyn.

“Mae hi wedi gwneud gwaith allweddol yn creu cysylltiadau gyda beirdd ledled y byd a chyflwyno eu gwaith i bobl Cymru. Dyma ddau lwybr y byddaf innau yn eu dilyn hefyd.

“O Boston i Frwsel, o Ddulyn i Washington, nid yw ysgrifennu yn y Gymraeg yn rhwystr wrth gysylltu â chynulleidfaoedd ehangach, ac fel y Bardd Cenedlaethol Cymru nesaf, edrychaf ymlaen at hyrwyddo ffrwyth llafur awduron o Gymru yn y ddwy iaith.”

Dywedodd y Bardd Llawryfog, Carol Ann Duffy: “Wedi’r holl waith gwych y mae Gillian Clarke wedi’i gyflawni, mae’n gyffrous gweld y rôl yn cael ei throsglwyddo i fardd a fydd yn sicr o ddathlu’r iaith Gymraeg – un o drysorau pennaf yr ynysoedd hyn.”

Bydd y bardd newydd yn cynnal ei ddigwyddiad swyddogol cyntaf yng Ngŵyl y Gelli gyda Gillian Clarke ar 31 Mai 2016 a bydd hefyd yn mynd ar daith ledled y DU dros dymor yr hydref.

Awdur Ieuenctid

Mae Sophie McKeand yn fardd o Wrecsam sydd â phrofiad helaeth yn cynnal gweithdai. Enillodd wobr Innovation in Poetry Out Spoken yn 2015, fe gyrhaeddodd restr hir National Poetry Competition y Poetry Society, a bydd yn fardd preswyl yng ngŵyl Focus Wales yn 2016.

Dywedodd: “Mae’n fraint anferth i mi gael fy mhenodi yn Awdur Ieuenctid Cymru.

“Mae’r cyfle hwn i rannu fy nghariad tuag at farddoniaeth gyda phobl ar hyd a lled y wlad brydferth hon yn gwireddu breuddwyd i mi, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gydag, a gwrando ar y bobl ifanc y byddaf yn cwrdd â hwy ar y siwrne anhygoel sydd o’m blaen.”

Yn ôl prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, mae’r swyddi hyn yn “adlewyrchu’r llenyddiaeth gorau o Gymru dros y byd.”

“Mae Ifor a Sophie yn feirdd a pherfformwyr sy’n rhagori ar eu crefft, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y byddant yn datblygu’r mentrau hyn ymhellach wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith.”