Joe Woolford - Llun o'i gyfrif Twitter
Fe fydd Cymro o Sir Ddinbych yn rhan o ddeuawd bop a fydd yn cynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth yr Eurovision eleni.

Cafodd Joe Woolford, 21, o Ruthun, a’i gyd-ganwr, Jake Shakeshaft, 20, o Stoke-on-Trent eu dewis mewn pleidlais gyhoeddus ar BBC 4 dros y penwythnos.

Bydd y ddau, a fu’n cystadlu yng nghyfres The Voice UK, yn perfformio eu cân, ‘You’re Not Alone’ ar lwyfan y gystadleuaeth enwog yn Stockholm ym mis Mai.

Y tro diwethaf i Brydain ennill y gystadleuaeth oedd yn 1997, gyda’r gân, ‘Love Shine A Light’, a gafodd ei pherfformio gan y grŵp Katrina and the Waves.

Y llynedd, daeth y grŵp Electro Velvet, oedd yn cynrychioli’r DU, yn olaf ond tri, gan sgorio pump o bwyntiau yn unig.