Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn sefyllfa Hybu Cig Cymru, er mwyn rhwystro rhagor o gamdriniaeth yn y gweithle, yn ôl Llŷr Gruffydd.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros y gogledd wrth iddo ymateb i honiadau difrifol yn erbyn unigolyn ac am ddiwylliant y cwmni.

Daeth honiadau yn erbyn y corff ym mis Chwefror yn wreiddiol, gyda sôn am fwlio staff.

Mewn rhaglen arbennig o’r gyfres Y Byd ar Bedwar ar S4C ddydd Llun (Tachwedd 25), fe ddatgelodd S4C ragor o gyhuddiadau am gamdriniaeth yn y gweithle

Mae’n ymddangos i 13 o’r 30 unigolyn sydd wedi’u cyflogi gan Hybu Cig Cymru adael eu swyddi dros y deunaw mis diwethaf.

Yn ogystal, yn ôl Llŷr Gruffydd, mae nifer o weithwyr eraill wedi bod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, ac mae sawl aelod o’r bwrdd wedi bod yn ymddiswyddo yn dilyn cyfarfodydd diweddar.

Fe wnaed chwe chwyn swyddogol yn cyhuddo un unigolyn o greu gweithle “tocsig”.

‘Esgeuluso’u dyletswydd’

Mae Llŷr Gruffydd yn dadlau mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ydy datrys y problemau hyn.

Llywodraeth Cymru sefydlodd Hybu Cig Cymru, ac mae’r hawl ganddyn nhw i benodi cyfarwyddwyr y cwmni.

Yn ogystal, caiff y corff ei ariannu’n rhannol gan doll ar gigoedd coch, wedi’i dalu gan gynhyrchwyr a lladdwyr.

Ond does dim newid agwedd wedi bod gan y Llywodraeth ers iddo drafod yr honiadau gwreiddiol gerbron y Senedd ym mis Chwefror, medd Llŷr Gruffydd.

Mae wedi codi’r pwnc yn Senedd sawl tro ers hynny, ond “dydy’r Llywodraeth ddim yn teimlo bod cyfrifoldeb arnyn nhw i ymyrryd”, medd Llŷr Gruffydd.

“Mae’r Llywodraeth yn parhau i blannu eu pennau yn y tywod.

“Mae’r holl sŵn o amgylch Hybu Cig Cymru’n negyddol, ond i’r Llywodraeth honni nad ydyn nhw’n medru gweld hynny, mae hynny’n gwbl gamarweiniol yn fy marn i.

“Mae’n esgeuluso’u dyletswydd.”

‘Dioddef’

Dywed Llŷr Gruffydd ei fod yn “poeni’n fawr fod pethau ddim wedi gwella” o hyd.

“Dw i’n benderfynol o barhau i bledio ar y Llywodraeth i ymyrryd, er mwyn medru sicrhau bod Hybu Cig Cymru’n medru parhau i gyflawni ar y gwaith mae ganddyn nhw ddyletswydd i’w gyflawni,” meddai wedyn.

“Os nad yw talwyr yr ardoll yn derbyn gwerth eu harian, yna mae’n gwbl iawn iddyn nhw gwestiynu pam ddylen nhw barhau i’w dalu e.

“Dw i eisiau i’r Llywodraeth ddatrys y broblem cyn ein bod ni’n canfod nad yw Hybu Cig Cymru’n medru gweithredu ar eu cyfrifoldebau, a bod y farchnad cig coch yng Nghymru felly’n dioddef.”

Cyfarwyddwyr newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n chwilio am ddau gyfarwyddwr anweithredol i ymuno â’r Bwrdd Cyfarwyddwyr.

Byddan nhw’n ymuno â naw cyfarwyddwr arall, gan gynnwys y cadeirydd Catherine Smith.

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i unigolion â phrofiad ac arbenigedd ym meysydd y gyfraith, llywodraethiant, cyllid ac adnoddau dynol, ynghyd â chadwyn gyflenwi cig coch.

Mae’r cyfarwyddwyr yn goruchwylio llywodraethiant y cwmni, gan ddarparu arweinyddiaeth effeithiol a chyfeiriad strategol, ac maen nhw’n gyfrifol am fonitro perfformiad Hybu Cig Cymru.

Y dyddiad cau i wneud cais yw Rhagfyr 13.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn parhau i gefnogi Hybu Cig Cymru – gan gynnwys y Cadeirydd a’r Bwrdd – i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i gyflawni ei waith pwysig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.