Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i 19 o geir gael eu difrodi yn ardal Bangor yn oriau man fore dydd Sul, 28 Chwefror.

Roedd y ceir wedi cael eu parcio yn ardaloedd Tregarth, Glasinfryn, Bethesda a Bangor a chafodd sgrin wynt bob un o’r cerbydau eu torri.

Digwyddodd y difrod rhywbryd rhwng 12.30yb a 7yb ddydd Sul.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney: “Credwn fod yna gysylltiad rhwng y digwyddiadau hyn ac rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y ceir yma yn cael eu difrodi.”

Ychwanegodd: “Rydym yn cymryd yr achosion yma o fandaliaeth ddifeddwl o ddifrif.  Mae yna dîm ymroddedig o swyddogion yn ymchwilio i hyn a hoffwn apelio ar unrhyw un sydd â TCC (Teledu Cylch Cyfyng) ar y ffyrdd cefn o Fangor tuag at y pentrefi hyn i gysylltu â’r Heddlu a dyfynnu’r cyfeirnod U028883.

“Rydym yn parhau i gynnal ymholiadau i hyn ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddod o hyd i’r rhai hynny sy’n gyfrifol am achosi’r difrod.”

Dylai unrhyw un a welodd y ceir yn cael eu difrodi, neu sydd â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu Bangor ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod U028883 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.