Mae nifer y swyddi gwag i feddygon yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dyblu mewn blwyddyn, yn ôl ffigurau diweddaraf y byrddau iechyd.
Mae’r ffigurau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth yn dangos mai 493 o swyddi gwag i feddygon oedd ar ddechrau mis Rhagfyr 2015, sydd dros ddwywaith y nifer o 230 yn y flwyddyn flaenorol.
Yn ôl y ffigurau, mae prinder nyrsys ledled Cymru hefyd, gyda 1,203 o swyddi gwag yn y proffesiwn.
Dywedodd y BBC bod y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn bwriadu recriwtio nyrsys o dramor, tra bod pump yn bwriadu recriwtio meddygon o dramor hefyd.
Bwrdd Iechyd Cwm Taf oedd â’r gyfradd uchaf o swyddi gwag i nyrsys, gyda 698, neu 10%, heb eu llenwi.
Ym Myrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda, roedd 14% o’u swyddi i feddygon yn wag, gyda dim ond 3% ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Ac yn ôl y ffigurau, roedd nifer y swyddi gwag i feddygon ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi treblu o 47 i 145 mewn blwyddyn.
“Wynebu heriau recriwtio”
“Mae bellach mwy o feddygon, nyrsys, bydwragedd, parafeddygon a gweithwyr deintyddiaeth yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru nag oedd 10 mlynedd yn ôl,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae gwybodaeth reoli gan y byrddau iechyd yn dangos bod 94.5% o swyddi meddygol a deintyddol yn llawn. Fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wynebu heriau recriwtio mewn rhai arbenigeddau, sy’n gyffredin yng ngweddill y DU.
“Mae Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i hyfforddi a gweithio.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi mentrau recriwtio gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ac i fynd i’r afael â recriwtio ar lefel genedlaethol.”