Cheryl James (Llun: PA)
Mae cwest wedi clywed bod milwr ifanc o Gymru, y cafwyd hyd i’w chorff â bwled yn ei phen ym marics Deepcut, yn meddwl bod pobol yn lledaenu si aflednais amdani.

Roedd y Preifat Cheryl James, a fu farw ym mis Tachwedd 1995, yn meddwl bod pobol yn “ei galw’n slwten,” meddai cyn-filwr dan hyfforddiant, Catherine Roberts wrth wrandawyr yn Llys y Crwner Woking.

Mae’n un o bedwar milwr i farw yn y gwersyll hyfforddi yn Surrey o fewn cyfnod o saith mlynedd, rhwng 1995 a 2002.

Dywedodd Catherine Roberts fod y milwr 18 oed yn “ofidus” pan soniodd fod pobol wedi bod yn galw enwau arni yn ffreutur y barics tua phedair wythnos cyn iddi farw.

Ond ychwanegodd nad oedd wedi “clywed dim am unrhyw un yn galw enwau arni”.

Doedd Cheryl James ddim wedi sôn am adael y Fyddin, meddai Catherine Roberts mewn datganiad, a doedd “dim arwydd y byddai’n gwneud niwed i’w hun chwaith, gan ei bod yn cynllunio mynd ar daith siopa Nadolig, oedd yn dangos ei bod yn edrych ymlaen at y dyfodol.”

Dywedodd hefyd ei bod wedi dioddef dau ymosodiad yn ystod ei hamser yn y barics, ond nad oedd yn teimlo ei bod yn gallu dweud wrth uwch-swyddogion.

Yn ôl Catherine Roberts, “fyddai neb wedi cymryd sylw ohonoch,” er bod y Fyddin wedi penodi corporal benywaidd i helpu.

Dod o hyd i’r corff

Mewn datganiad, dywedodd William Porter, parameddyg gyda Gwasanaeth Ambiwlans Surrey, “o beth roeddwn i’n gallu gweld, roeddwn yn credu mai hunanladdiad oedd wedi digwydd.

“Rwy’n cofio mynd i fyny llethr… a gweld merch mewn gwisg y Fyddin,” meddai.

“Rwy’n credu roedd ei chefn yn erbyn coeden ac o bosib, roedd ei phengliniau wedi codi. Roeddwn i’n gallu gweld anaf ar ochr dde ei phen.”

Dywedodd heddwas y Weinyddiaeth Amddiffyn fod corff y milwr yn gorwedd wyneb i lawr mewn ardal goediog pan wnaeth gyrraedd y barics.

“Roedd y corff yn wynebu i lawr. Dw i ddim yn cofio gweld unrhyw anafiadau na reiffl,” meddai’r Arolygydd Timothy Mackie, oedd yn sarjant yn 1995.

Wrth adael y safle, cofiodd arolygydd yr heddlu yn dweud wrtho fod gan Cheryl James anaf ar ei thalcen.

“Rwy’n cofio gweld hynny’n od, gan nad oedden i’n gallu cofio anaf,” meddai.

Mae’r gwrandawiad yn parhau ddydd Llun.