Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn croesawu tri chymrawd newydd yn ei gynulliad blynyddol yr wythnos nesaf.
Yr ymgyrchydd iaith, newyddiadurwr a darlithydd, Ned Thomas, cyn-reolwr BBC Cymru, Geraint Talfan Davies a Phrif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru, Rhian Huws Williams fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Coleg eleni.
Mae’r anrhydeddau yn cael eu cyflwyno er mwyn cydnabod cyfraniadau’r tri at addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ac at waith y Coleg yn gyffredinol.
Cyfraniadau’r tri
Bu Ned Thomas yn Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru ac ar ôl cyfnod yn Gyfarwyddwr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ef bellach yw’r llywydd.
Arweiniodd un o brosiectau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg – ac mae’n gweithio ar y prosiect Detholion, i gyfieithu gweithiau allweddol i’r Gymraeg.
Yn 2010 cafodd Geraint Talfan Davies, un o gyfarwyddwyr cyntaf y Coleg, ei benodi’n Gadeirydd y Bwrdd Gweithredu a fu’n gyfrifol am lunio cyfansoddiad y Coleg.
Bu Rhian Huws Williams yn cynghori’r Coleg ar fuddsoddi adnoddau ym meysydd iechyd a gofal, a chaiff y gymrodoriaeth er mwyn cydnabod ei hymrwymiad i’r iaith Gymraeg ym myd addysg uwch ac ym maes addysg oedolion yn gyffredinol.
Cymry Cymraeg yn ‘dal i fod yn lleiafrif’
Dywedodd Ned Thomas, sydd wedi bod yn darlithio yng Nghymru ers 1970, wrth golwg360 fod yr anrhydedd yn “arbennig iawn i mi gan fy mod i wedi dod at y byd academaidd Cymraeg o’r cyrion, ro’n i’n ddarlithydd ac yn uwch-ddarlithydd mewn adran Saesneg am flynyddoedd,” meddai.
“Mi lwyddes i ar un adeg i ddysgu cwrs llenyddiaeth Saesneg trydydd byd drwy’r Gymraeg, felly ro’n ni wedi arbrofi i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae’n reit anodd pan rydych chi mewn adran Saesneg!
“Yn sicr, mae statws y Gymraeg, yn Aberystwyth, lle mae fy mhrofiad i, llawer iawn yn uwch.
“Mae’r awyrgylch yn reit gefnogol ond wrth gwrs, ar yr un pryd, mae’r brifysgol yn dal i ehangu, felly mae Cymry Cymraeg yn naturiol, yn lleiafrif reit fechan, yn Aberystwyth, ym Mangor, ac ymhob man.
“Yn sicr, mae dyfodiad y Coleg Cymraeg a’r gallu i gyflogi pobol sy’n rhoi’r prif sylw i ddysgu Cymraeg yn gam ymlaen.”
Gwobrau eraill
Bydd y Cynulliad yng Nghaerdydd hefyd yn cydnabod myfyrwyr sydd wedi sicrhau doethuriaeth dan nawdd y Coleg, a chydnabod llwyddiant Meinir Olwen Williams, enillydd Gwobr Norah Isaac am y marc uchaf yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg y llynedd.
Bydd Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan hefyd yn cael ei chyflwyno i wyddonydd sydd wedi gwneud cyfraniad at addysgu’r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg, Yr Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe fydd yn cael y wobr eleni.
Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn y Deml Heddwch, Parc Cathays yn y brifddinas ar 2 Mawrth 2016 am 6 yr hwyr.