Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dau gi wedi achosi damwain ddifrifol ar ffordd yr A4232 i mewn i Gaerdydd wrth redeg ar draws traffig.

Yn ôl yr heddlu roedd dau gar yn rhan o’r ddamwain, gydag un person yn gorfod cael eu hachub o’u cerbyd.

Bu farw un o’r cŵn yn y ddamwain, ond mae’r llall wedi cael ei achub.

Daw hyn ychydig ddyddiau wedi ffrae fawr ar ôl i Heddlu’r Gogledd daro ci a’i ladd yn fwriadol ar yr A55 am eu bod yn poeni y gallai achosi damwain.

‘Un wedi anafu’

Mae’r gwasanaeth tân bellach wedi cadarnhau bod un ddynes wedi cael ei hachub o’i char, â’i bod hi bellach wedi cael ei chludo o’r ddamwain mewn ambiwlans.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd ddeheuol yr A4232 rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd am 7.17 fore ddydd Gwener.

Roedd ambiwlans ac injan dân wedi cael eu rhuthro i’r safle ar ôl adroddiadau bod un person wedi cael eu hanafu’n ddifrifol, ond maen nhw bellach yn paratoi i adael.

Mae’r ddamwain wedi achosi tagfeydd sylweddol ar y ffordd i mewn i Gaerdydd, gyda thraffig o gwmpas cyffordd 33 mwy neu lai wedi dod i stop.