Catfish and the Bottlemen
Daeth band o Landudno i’r brig yng Ngwobrau’r Brits neithiwr wrth hawlio un o brif wobrau’r noson.
Llwyddodd Catfish and the Bottlemen i gipio gwobr y Best British Breakthrough Act yn 2016.
Cafodd Catfish and the Bottlemen ei ffurfio ym 2007, ar ôl i Ryan Evan McCann a Billy Bibby ddechrau chwarae gitâr gyda’i gilydd yng nghartref Billy a oedd yn westy gwely a brecwast yn Llandudno.
Fe arwyddwyd Catfish and the Bottlemen i label Communion Records yn 2013, sy’n cael ei redeg gan aelod o’r band Mumford and Sons, Ben Lovett.
Bu’n noson lwyddiannus iawn i’r gantores Adele ar ôl iddi gipio pedair gwobr am albwm orau’r flwyddyn, sengl orau’r flwyddyn, artist benywaidd y flwyddyn a llwyddiant mwyaf yn fyd-eang.
Ymhlith uchafbwyntiau’r noson oedd perfformiad gan y band Coldplay sydd wedi ennill naw gwobr yn y Brits dros y blynyddoedd.
Yn ystod y noson, cafwyd teyrnged emosiynol gan y gantores Annie Lennox i’r diweddar David Bowie a fu farw o ganser ym mis Ionawr.