Mae adroddiad newydd wedi canfod bod cysylltiad rhwng achosion o foddi ymhlith pobol ifanc ac yfed alcohol.
Roedd yr adroddiad gan Raglen Adolygu Marwolaethau Plant yn canolbwyntio ar farwolaethau 26 o bobol ifanc rhwng 1 Hydref 2009 a 30 Medi 2014 a daeth i’r amlwg y gallai traean o’r rhain fod wedi yfed alcohol cyn mynd i mewn i’r dŵr.
Roedd y gwaith yn edrych ar bobol ifanc hyd at 24 oed, ac wedi canfod bod y rhan fwyaf o’r marwolaethau wedi digwydd ymhlith plant hŷn, gyda 81% ohonynt rhwng 12 a 24.
Roedd pump a fu farw (19%) yn 11 oed neu’n iau, a thra bod marwolaethau’r grŵp hŷn wedi digwydd mewn dŵr agored, roedd y rhai ifancach wedi marw mewn dyfroedd caeedig, fel pyllau.
Dynion oedd y rhan fwyaf a fu farw, gyda 21 o’r 26 (81%) yn wrywaidd.
Fforwm cenedlaethol
Yn dilyn y canfyddiadau, mae’r rhaglen sydd dan law Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi awgrymu sefydlu fforwm cenedlaethol rhwng sefydliadau i wella diogelwch dŵr yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y gall goruchwyliaeth agosach gan oedolion helpu i atal boddi mewn rhai achosion.
Yn ôl yr adroddiad, mae hefyd angen canllawiau cyson ar nofio mwy diogel i blant a phobol ifanc sy’n dioddef o epilepsi, a’u gofalwyr, gan nad oes consensws o’r fath yn bodoli ar hyn o bryd.
Angen gwneud ‘popeth’ posib i leihau’r risg
“Mae marwolaeth plentyn neu berson ifanc yn drasiedi sy’n cael effaith anfesuradwy ar deuluoedd, ffrindiau, a chymunedau. Dyna pam mae mor bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn i leihau’r risgiau,” meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd Amgylcheddol i Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Rydym yn gofyn i’n cydweithwyr yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) adolygu eu canllawiau i sicrhau bod ymarferwyr yn cyflawni negeseuon diogelwch cyson y cytunwyd arnynt ynghylch epilepsi ac ymdrochi.”
Dywedodd Nicola Davies, Rheolwr Lleihau Digwyddiadau Cymunedol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI): “Nod yr RNLI yw achub bywydau ar y môr. Rydym yn gwneud hyn nid dim ond drwy ein bad achub ond, yn gynyddol, drwy raglenni a gweithio mewn partneriaeth.
“Er mwyn lleihau nifer y digwyddiadau trasig hyn mae angen inni weithio gyda’n gilydd ac mae sefydlu fforwm cenedlaethol yng Nghymru yn sylfaenol er mwyn cyflawni hyn.”
Mae’r adroddiad hefyd yn cynghori:
- Dylai fod gan sefydliadau yng Nghymru negeseuon cyffredin ar ddiogelwch dŵr, mewn mannau amlwg.
- Defnyddio gatiau hunan glicied o amgylch pyllau i hyrwyddo nofio mwy diogel neu atal cyswllt anfwriadol â dŵr.
- Gallai addysg ar sut mae gwersi yn y pwll nofio yn berthnasol i ddŵr agored gael eu cynnwys yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu nofio.
- Mae angen cynlluniau yng Nghymru i lunio cynlluniau asesu risg a diogelwch dŵr cymunedol sydd ar gael i’r cyhoedd.
- Gellid annog pobl sydd ar eu gwyliau gartref a thramor i fod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch dŵr, wedi’u cynorthwyo gan y diwydiant twristiaeth.
- Mae cyfleoedd i wella’r broses o rannu data, ac ystyried sut y mae gwybodaeth yn cael ei chyfathrebu i atal damweiniau, gan gynnwys adroddiadau gan grwneriaid.