Nia Griffith, Ysgrifennydd Cysgodol Cymru
Mae Llafur wedi beirniadu cynlluniau gan y Llywodraeth Geidwadol i leihau nifer Aelodau Seneddol o Gymru o 40 i 29.
Mae’r cynlluniau’n rhan o newidiadau ehangach i etholaethau ym Mhrydain a allai weld nifer y seddi’n disgyn o 650 i 600, a hynny ar ôl i gynlluniau tebyg gael eu hatal yn 2013.
Fe fydd Comisiwn Ffiniau Cymru yn cyhoeddi cynlluniau mwy manwl yn nes ymlaen eleni, ond y disgwyl yw y bydd yn rhaid i bob etholaeth fod â rhwng 71,031 a 78,507 o etholwyr ynddi.
Byddai hynny’n golygu y gallai sawl un o etholaethau Cymru orfod cael eu diddymu, neu uno â rhai cyfagos.
‘Torri’r siambr anghywir’
Ond yn ôl Ysgrifennydd Cysgodol Cymru Nia Griffith, mae’r llywodraeth yn ceisio torri costau gwleidyddiaeth yn y lle anghywir.
“Mae’r toriad sylweddol hwn yn nifer yr ASau Cymreig yn mynd i leihau llais Cymru yn San Steffan ar yr union bryd y mae polisïau’r llywodraeth yn taro’r cymunedau rydyn ni’n eu cynrychioli,” meddai Nia Griffith.
“Bydd unrhyw leihad yn nifer yr ASau Cymreig yn cael effaith andwyol ar yr ystod o wasanaethau cymorth a chyngor y mae swyddfeydd ASau yn eu darparu i etholwyr.
“Os yw’r Ceidwadwyr o ddifrif am leihau cost gwleidyddiaeth fe ddylen nhw dorri’r nifer o wleidyddion sydd heb eu hethol yn Nhŷ’r Arglwyddi, sydd wedi chwyddo’n sylweddol gyda 236 aelod newydd ers i David Cameron ddod yn Brif Weinidog.”