Protestwyr Heathrow wedi'u harwain gan Danni Paffard (llun: Stefan Rousseau/PA)
Mae tri pherson o Fachynlleth oedd o flaen eu gwell am gymryd rhan mewn protest yn erbyn ehangu maes awyr Heathrow wedi osgoi carchar.

Roedd Rebecca Sanderson, 28, o Heol Newton, Richard Hawkins, 32, a Kara Moses, 32, y ddau o Heol y Doll ym Machynlleth ymysg 13 aelod o grŵp lobïo Plane Stupid oedd yn ymgyrchu yn erbyn cael trydedd lain lanio yn y maes awyr.

Mae pob un o’r 13 wedi cael dedfrydau o chwe wythnos yn y carchar wedi’u gohirio am flwyddyn, yn ogystal â gorfod gwneud rhwng 120 a 180 awr o waith cymunedol di-dâl.

Cost ariannol ‘anferth’

Yn dilyn achos llys ym mis Ionawr, cafwyd y protestwyr yn euog o dresmasu difrifol ac o fynd i mewn i ardal ddiogelwch cyfyngedig mewn maes awyr.

Fe wnaeth y grŵp dorri twll mewn ffens a gwneud eu ffordd i lain ogleddol Heathrow gan glymu eu hunain i fariau yn yr oriau mân ar 13 Gorffennaf y llynedd.

Roedd yn rhaid canslo 25 o hediadau, gan darfu ar filoedd o deithwyr ac achosi cost ariannol “anferth” i’r maes awyr.