Mae Winston Roddick hefyd wedi dweud y bydd yn edrych ymhellach i'r mater
Mae penderfyniad Heddlu Gogledd Cymru i ladd ci drwy yrru car yn gyflym ato ar yr A55 wedi cael ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, Winston Roddick, y bydd yntau’n “gofyn nifer o gwestiynau” yn dilyn y digwyddiad er mwyn “edrych i mewn i’r mater yn llawn”.
Cafodd yr achos ei gyfeirio gan yr heddlu at y comisiwn o wirfodd “o ganlyniad i lefel pryder y cyhoedd”, ar ôl beirniadaeth hallt gan lawer – ond cefnogaeth gan eraill.
Mae hi wedi dod i’r amlwg bellach fod y ci wedi mynd ar goll o grŵp o gŵn hela oedd yn yr ardal dros y penwythnos, a bod y perchennog yn dod o du allan i Gymru.
‘Dim dewis arall’
Cafodd y penderfyniad gan swyddogion i ladd y ci ei feirniadu’n hallt ar wefannau cymdeithasol, ond yn ôl yr heddlu, doedd dim dewis arall ganddyn nhw.
“Cafodd Swyddogion eu gorfodi i wneud penderfyniad anodd, o dan amgylchiadau anodd, a’u prif bryder oedd diogelwch defnyddwyr y ffyrdd,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Sacha Hatchett.
Roedd y ci wedi bod yn rhedeg yn rhydd ar y ffordd yn oriau man fore Llun, ac fe gafodd y penderfyniad ei wneud i’w ddifa er lles diogelwch y cyhoedd gan fod nifer o gerbydau wedi gorfod gyrru o’i gwmpas ar gyflymdra uchel.
Cafodd un plismon ei frathu wrth geisio dal y ci ar droed cyn i gar yr heddlu yrru at yr anifail ar gyflymdra digonol i’w ladd ar unwaith.
Comisiynydd Heddlu yn ‘gofyn cwestiynau’
Dywedodd Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, y byddai’n edrych ymhellach i’r mater.
“Roedd y rhain yn amgylchiadau anarferol iawn ac roedd yn benderfyniad anodd i’w wneud, yn enwedig gan fy mod yn deall bod y ddau heddwas dan sylw yn berchnogion cŵn eu hunain,” meddai.
“Byddaf yn codi’r mater gyda’r heddlu a byddaf yn gofyn nifer o gwestiynau oherwydd mae’n bwysig sicrhau ein bod yn edrych i mewn i’r mater yn llawn.”
‘Penderfyniad cywir’
Er gwaethaf y feirniadaeth, fe ddywedodd ffarmwr lleol wrth golwg360 mai’r penderfyniad cywir oedd difa’r ci.
“Cadw pobol yn saff ydi eu gwaith nhw, a dwi hefo nhw,” meddai Gareth Wyn Jones, yr amaethwr adnabyddus sy’n byw gerllaw yn Llanfairfechan.
“Mae pobol yn deud ‘pam na ddaru nhw saethu’r ci?’ Wel, rhaid iddyn nhw feddwl amdan hyn. Maen nhw wedi rhoi o allan o’i boen yn reit sydyn.”