Y morlyn llanw arfaethedig ym Mae Abertawe
Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi gwrthod datgan cefnogaeth ddiamod i gynllun Morlyn Bae Abertawe wrth i ddyfodol y prosiect barhau i fod yn y fantol.

Roedd cwmni Tidal Lagoon Power wedi gobeithio denu cefnogaeth ariannol ar gyfer y datblygiad gwerth £1biliwn fyddai’n cynhyrchu ynni llanw oddi ar arfordir y ddinas.

Ond er i’r cwmni sydd yn gyfrifol am y cynllun alw am y gefnogaeth honno o fewn yr wythnosau nesaf, mae’r llywodraeth wedi penderfynu yn lle hynny i gynnal adolygiad i ddichonoldeb y morlyn.

A doedd Stephen Crabb ddim yn awyddus i ateb pan ofynnwyd iddo yn San Steffan heddiw a allai sicrhau nad oedd y datblygiad am gael ei wrthod.

‘Dur Cymreig yn Crossrail’

Dywedodd Ysgrifennydd Cysgodol Cymru Nia Griffith o’r Blaid Lafur bod llawer o gwmnïau ardal Abertawe wedi ymrwymo i ddatblygiad y morlyn, ac y byddai dileu’r prosiect yn ergyd farwol i’r ardal.

Ond mynnodd Stephen Crabb fod prif weithredwr y cynllun wedi croesawu’r adolygiad, gan osgoi rhoi ymrwymiad pendant i ddyfodol y datblygiad.

“Rydw i’n sylwi nad yw’r ysgrifennydd gwladol cysgodol wedi sefyll lan heddiw a chroesawu beth welsom ni ddoe – Ein Mawrhydi’r Frenhines yn enwi ac agor llinell Crossrail newydd Elizabeth [yn Llundain] sydd gyda llaw yn defnyddio 50,000 tunnell o ddur wedi’i wneud yng Nghymru gan Celsa,” meddai Crabb.

“O ran adolygiad y morlyn llanw … [mae’r llywodraeth yn] edrych ar bob opsiwn er mwyn gweld a oes modd i’r prosiect yma fod yn ddichonadwy.”