Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau enw’r dyn gafodd ei ganfod yn farw yn yr Afon Wysg ddydd Llun.

Cafodd corff John Sullivan, 66, o’r Fenni ei godi o’r afon am 10.00 o’r gloch y bore hwnnw.

Dywedodd yr heddlu ei fod eisoes wedi marw pan gafwyd hyd iddo.

Roedd y gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio ger pont Llan-ffwyst ger y Fenni ar ôl adroddiadau bod dyn wedi mynd i drafferthion yno.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i amodau’r farwolaeth.