Gall Gymru golli cannoedd o filiynau o bunnoedd os nad oes ystyriaeth fanwl yn cael ei rhoi i’r broses o ddatganoli treth incwm i Lywodraeth Cymru, yn ôl adroddiad newydd.

Dywed yr adroddiad, gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd y gallai’r ffordd sydd wedi cael ei chynnig o leihau bloc grant Cymru o San Steffan, a hynny am bwerau codi trethi newydd, olygu bod Cymru ar ei cholled.

Daw’r adroddiad, ‘Income Tax and Wales: The Risks and Rewards of New Model Devolution,’ ar gyfnod pan fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cael tua £2biliwn mewn Treth Incwm, bron i chwe blynedd ar ôl i’r syniad gael ei grybwyll am y tro cyntaf.

Mae’n dod yn dilyn trafodaethau rhwng llywodraethau’r Alban a’r DU dros setliad ariannu i’r Alban, yn dilyn datganoli pwerau trethi incwm llawn i’r wlad.

Mae’r adroddiad yn codi’r cwestiynau canlynol:

  • Dydy’r ymarferoldeb o weithredu datganoli ariannol rhannol i Gymru heb gael eu hystyried.
  • Bod datblygiadau pwysig, wedi codi ers gwaith comisiynau Holtham a Silk sydd angen cael eu hystyried wrth ddatganoli trethi.
  • Bod profiad yr Alban yn dangos y gall Gymru golli cannoedd ar filiynau o bunnoedd o dan y ffordd arfaethedig o leihau ei bloc grant.
  • Dylai unrhyw drafodaethau ar newid polisïau a chyfraddau treth yn ystod etholiadau’r Cynulliad gael eu hystyried yn rhai sy’n rhy gynnar i’w trafod, a hynny am yr ansicrwydd yn eu cylch.

Effaith twf poblogrwydd Cymru yn arafu

Yn ôl yr adroddiad, mae’r ffaith fod poblogaeth Cymru yn tyfu ar raddfa llawer yn llai na gweddill y DU yn golygu y bydd sylfaen treth Cymru yn tyfu ar raddfa lai a bod angen ystyried hyn wrth benderfynu ar leihau bloc grant y wlad.

Hefyd, bydd polisi Llywodraeth y DU i gynyddu’r lwfans personol yn tynnu rhagor o bobol Cymru allan o’r sylfaen treth incwm, ac y byddai newid o’r fath yn golygu cwtogi cyllid Cymru yn sylweddol, meddai’r adroddiad.

“Mae’r adroddiad yn dadlau bod nifer o broblemau ymarferol sy’n rhaid mynd i’r afael â nhw wrth ystyried datganoli Treth Incwm yn rhannol (i Gymru),” meddai Ed Poole o Ganolfan Lywodraethiant Cymru.

“Mae’r atebolrwydd ychwanegol y bydd hyn yn ei olygu  i’w groesawu, ond ni ddylai cyllid Llywodraeth Cymru ddioddef o ganlyniad i oblygiadau anfwriadol polisi treth Llywodraeth y DU, fel newidiadau i’r lwfans personol.

“Dros bum mlynedd o dymor y Cynulliad, gallai ffordd o rannu bloc grant i Gymru, sy’n ei rhoi dan anfantais achosi colled o gannoedd o filiynau (o bunnoedd) i gyllid Cymru.”