Stryd yn Aberystwyth - dim camera
Mae perchennog un o dafarndai mwya’ poblogaidd Aberystwyth wedi dweud ei fod yn “gresynu” wrth i arolwg ddangos mai Cyngor Ceredigion yw’r unig un trwy Gymru heb gamerâu cylch cyfyng.

Ers i’r penderfyniad gael ei wneud, mae wedi bod yn anodd mynd i’r afael â throseddau sy’n digwydd yn y nos, fel ymladd, yn ôl Mike Fisher, perchennog Tafarn y Cambrian yng nghanol y dref.

Roedd tafarnwraig arall yn dweud bod yr heddlu bellach yn gofyn yn amlach iddi hi am gael gweld lluniau o’u camerâu preifat.

Ond mae Cadeirydd Siambr Fasnach Aberystwyth yn anghytuno, gan ddweud nad oes newid o ran troseddau na masnach yn y dref.

Dewis

Yn ôl Mike Fisher, fe allai’r diffyg camerâu cylch cyfyng wneud gwahaniaeth i bobol wrth ystyried dod i Aberystwyth neu beidio.

“Pe baech chi’n anfon eich bachgen neu ferch 18 oed i brifysgol, ac mai rhwng Caerdydd ac Aberystwyth oedd hi, byddech yn meddwl nad yw’r dref hon, sy’n dibynnu cymaint ar y Brifysgol, yn poeni digon i hyd yn oed gael CCTV ar ei strydoedd,” meddai wrth golwg360.

Roedd yn ymateb ar ôl i adroddiad Big Brother Watch, ar gamerâu cylch cyfyng ledled Prydain, dynnu sylw at sefyllfa Ceredigion ac at y ffaith mai cymharol ychydig o gamerâu CCTV sydd trwy Gymru gyfan.

Trafferth i ddal troseddwyr

Yn ôl Mike Fisher, mae’r heddlu wedi cael trafferth wrth geisio dal troseddwyr gan nad oes camerâu i’w helpu.

“Roedd digwyddiad ar dop y dre o fewn y flwyddyn ddiwethaf, lle roedd llawer yn ymladd â’i gilydd, a dim ond un person a gafodd ei ddal achos doedd dim CCTV.”

Yn ôl Sara Beechey, sy’n berchen ar y Llew Du yn Aberystwyth, mae wedi gweld cynnydd yn nifer y troeon y mae’r heddlu wedi gofyn iddi am gael gweld ffilm o gamerâu’r dafarn yn dilyn digwyddiadau ar y stryd.

“Mae gennyn ni ein CCTV ein hunain felly does dim problem wedi bod (o ran taclo troseddau) ond mae’r heddlu yn dod aton ni lot yn fwy erbyn hyn i gael gweld ein CCTV ni,” meddai.

Gyda bwriad i godi toll ar fusnesu Aberystwyth i greu cronfa fuddsoddi, fe ddywedodd Mike Fisher y dylai’r arian gael ei wario ar gamerâu.

“Dim effaith”

Ar y llaw arall, dydy cadeirydd Siambr Fasnach Aberystwyth, Chris Mackenzie Grieve, sydd hefyd yn berchen ar gaffi MG’s yn Aberystwyth, heb weld unrhyw wahaniaeth yn y dref ers i’r camerâu ddiffodd.

“Dydy e ddim wedi cael effaith o gwbl ar fasnach yn y dref, i fod yn onest, dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobol yn sylweddoli eu bod nhw wedi cael eu diffodd,” meddai.

“Dydyn ni chwaith ddim wedi sylwi ar unrhyw gynnydd mawr mewn troseddau ac achosion o ddwyn o siopau.”

‘Dim cynlluniau’

Mewn ymateb dywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Daeth system Teledu Cylch Cyfyng Sir Ceredigion i ben ym mis Ebrill, 2014, yn dilyn penderfyniad gan y cyngor i roi’r gorau i’r cyllid o ganlyniad i’r hinsawdd economaidd heriol presennol.

“Mae’r mater o Teledu Cylch Cyfyng ar draws y Rhanbarth Dyfed-Powys wedi bod yn destun adolygiad a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a chafodd y canfyddiadau eu cyhoeddi yn Rhagfyr 2014.

“Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau o fewn yr Awdurdod i ail-sefydlu y system.”

Mae golwg360 hefyd wedi gofyn am ymateb gan Heddlu Dyfed Powys.

Stori: Mared Ifan   maredifan@golwg.com