Antwn Owen-Hicks yw Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn heddiw (dydd Mercher, Awst 7), yn dilyn cystadleuaeth ddenodd y nifer mwyaf o geisiadau erioed.

Cafodd 45 o unigolion eu cyfweld eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu, a’r beirniaid oedd Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan.

Y tri arall ddaeth i’r brig oedd Joshua Morgan, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth.

Wrth draddodi o’r llwyfan, dywedodd Cefin Campbell mai “siaradwyr newydd” yw’r term y dylid ei ddefnyddio yn lle “dysgwyr” – “achos mae peryg iddyn nhw gael eu labelu’n ddysgwyr am byth wedyn, ac ry’n ni gyd ar daith,” meddai.

Hyrwyddo artistiaid Cymraeg

Mae Antwn Owen-Hicks yn defnyddio Cymraeg yn ddyddiol yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd.

Cafodd ei fagu ar aelwyd ddi-gymraeg – ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu.

Dechreuodd ymddiddori yn ei wreiddiau a’r Gymraeg pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain, ac aeth ati i ddechrau dysgu pan ddychwelodd i Gymru, ac mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A Cymraeg.

Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhowy, a’i ferch yw’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.

Mae’n un o sylfaenwyr Carreg Lafar, band gwerin Cymraeg sydd wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y Deyrnas Unedig, Ewrop a gogledd America.

Yn ogystal, dechreuodd gyfres o gyngherddau acwstig anffurfiol, ‘Y Parlwr’, gyda’i wraig Linda, gan roi llwyfan i artistiaid Cymraeg yn bennaf.

Tlws Dysgwr y Flwyddyn

Derbyniodd Antwn Owen-Hicks Dlws Dysgwr y Flwyddyn, rhodd gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a £300, yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards, i ddiolch i’w rhieni am fynd ati i ddysgu Cymraeg fel oedolion, ac i ddiolch i bawb arall sydd wedi dysgu’r iaith, neu sicrhau bod eu plant yn cael addysg Gymraeg er nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg eu hunain.

Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol dlws, yn rhoddedig gan Menna Davies, er cof am thad, Meirion Lewis, cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Ynys-wen, ei mam, Clarice Lewis a’i chwaer, Mair, a £100 yr un, gyda’r wobr ariannol hon yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.

Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.