Mae’r diffyg terfysgoedd yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf yn cynnig “gobaith”, yn ôl arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.

Fe fu Anthony Slaughter yn ymateb i’r terfysgoedd sydd wedi bod yn nifer o drefi a dinasoedd Lloegr dros yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i Axel Rudakubana, llanc 17 oed sy’n hanu o Gaerdydd, gael ei gyhuddo o lofruddio tair o ferched yn Southport.

“Rydym yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â phawb sy’n teimlo’n anniogel oherwydd lliw eu croen neu’r crefydd maen nhw’n ei ddilyn,” meddai.

“Ddylai rhieni ddim ofni mynd â’u plant i’r ysgol, neu fynd i’r gwaith, neu neiniau a theidiau sy’n mynd i weddïo.

“Efallai mai terfysgwyr ar y stryd yw’r milwyr ar lawr gwlad, ond mae gwleidyddion sinigaidd wedi tanio’r atgasedd sydd wedi galluogi ffasgwyr i drefnu eu hunain a thanio’r terfysgoedd hyn.

“Mae’r gwleidyddion hyn wedi gweithredu wrth feirniadu mudwyr a bod yn Islamoffobaidd pan fo hynny o fudd iddyn nhw’n wleidyddol, ond nawr maen nhw’n golchi eu dwylo o effaith eu geiriau yn y byd go iawn.”

Gwahanol iawn yng Nghymru

I’r gwrthwyneb, dywed Anthony Slaughter ei fod yn “falch” o’r ffordd mae pobol wedi bod yn ymddwyn yng Nghymru.

“Yma yng Nghymru, dw i’n falch fod trigolion wedi heidio allan fel eu bod yn fwy o ran nifer na’r cynulliadau ffasgaidd yng Nghaerdydd,” meddai.

“Dw i’n gwybod fod hyn wedi bod yn destun gobaith i nifer ohonom.

“Ond allwn ni ddim esgus bod Cymru’n imiwn i’r gwenwyn yma.

“Fis diwethaf, bu bron i Reform ddod yn ail yn yr etholiad cyffredinol.

“Nawr, rydym yn wynebu’r bygythiad y bydd Cymru’n dod yn ganolfan fwya’r asgell dde bellaf yn y Deyrnas Unedig pe bai polau’r Senedd yn dod yn wir.

“Mae’r golygfeydd erchyll a brawychus dros yr wythnos ddiwethaf yn alwad i ddeffro, ac yn ein hatgoffa mai undod a solidariaeth gymunedol yw’r unig ffordd o herio’r casineb ffasgaidd yma, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â chymunedau ledled Cymru i gyflawni hyn.

“Mae’n bryd i wleidyddion a newyddiadurwyr gamu i fyny a beirniadu’r ffasgaeth ac Islamoffobia am yr hyn yw e – gwenwyn – ac i bawb ohonom ddathlu ac amddiffyn amrywiaeth gyfoethog ein cymunedau.”