Mae Carles Puigdemont, cyn-Arlywydd Catalwnia, wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd i’r wlad fory (dydd Iau, Awst 8), ar ôl bod yn byw’n alltud ers y refferendwm annibyniaeth yn 2017.

Mae disgwyl iddo fod yn bresennol yn y ddadl arlywyddol yn Senedd Catalwnia fory, er ei bod hi’n debygol y gallai gael ei arestio.

Mae ei blaid, Junts per Catalunya, wedi trefnu derbyniad yn ninas Barcelona i’w groesawu’n ôl, ac mae disgwyl i’r ddadl arlywyddol ddechrau’n fuan ar ôl y derbyniad.

Y gred yw mai’r sosialydd Salvador Illa fydd yr arlywydd newydd, ar ôl iddo fe daro bargen ag Esquerra Republicana a Comuns Sumar er mwyn sicrhau’r 68 sedd sy’n ofynnol er mwyn ffurfio llywodraeth.

Pe bai’n cael ei ethol, dyma fyddai’r tro cyntaf ers 2010 i Gatalwnia gael arlywydd sy’n ffafrio aros yn rhan o Sbaen.

Daeth Puigdemont yn ail y tu ôl i’r Sosialwyr yn yr etholiad diwethaf, ond doedd dim modd iddo fe ffurfio clymblaid er mwyn cael llywodraethu.

Galw am ohirio’r ddadl

Dywed Junts per Catalunya y byddan nhw’n galw am ohirio’r ddadl pe bai Carles Puigdemont yn cael ei arestio ar ôl dychwelyd i Gatalwnia.

“Nid dyma’r amodau i gynnal y Cyfarfod Llawn hwn,” meddai Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, wrth siarad ar y teledu.

Bu Carles Puigdemont yn alltud ers 2017, ac mae’r awdurdodau’n awyddus i’w holi mewn perthynas â threfnu’r refferendwm annibyniaeth y flwyddyn honno.

Dydy’r amnest ar gyfer arweinwyr yr ymgyrch ddim eto’n berthnasol i Puigdemont, ond mae ei blaid yn dweud y dylai fod.

Mae’r Goruchaf Lys yn parhau i ddadlau na all unigolion dan amheuaeth o gamddefnyddio arian cyhoeddus adeg y refferendwm elwa ar yr amnest, ac felly maen nhw’n disgwyl i Puigdemont fynd yn syth i’r ddalfa wrth ddychwelyd i’r wlad.

Ond pe bai hynny’n digwydd, mae Junts per Catalunya yn dweud y byddan nhw’n tynnu eu cefnogaeth i’r llywodraeth yn ôl, gan beryglu dyfodol y weinyddiaeth ym Madrid.

Diogelwch

Mae heddlu Catalwnia wrthi’n llunio cynllun diogelwch yn Barcelona cyn i Carles Puigdemont ddychwelyd.

Mae disgwyl i ragor o blismyn gael eu hanfon i’r ardal, gyda’r bwriad o atal y cyn-arlywydd rhag cael mynediad i’r senedd.

Mae degau o blismyn eisoes yn monitro’r sefyllfa rhag ofn y bydd protestwyr yn ymgynnull, a’r disgwyl yw y bydd y blaid asgell dde Vox a Junts per Catalunya yn cynnal protestiadau.

Cefndir

Mae warant i arestio Carles Puigdemont am ei ran yn yr ymgyrch annibyniaeth yn 2017 yn weithredol o hyd.

Mae e wedi’i amau o gamddefnyddio arian cyhoeddus er mwyn cynnal yr ymgyrch.

Pe bai’n cael ei arestio, mae disgwyl iddo fe gael ei gadw mewn cell yn y ddalfa yn Barcelona, a bydd y barnwr ar ddyletswydd yn rhoi gwybod i’r Goruchaf Lys.

Gallai Pablo Llarena, y barnwr oedd wedi cyhoeddi’r warant i’w arestio, glywed tystiolaeth drwy gyswllt fideo, ei orchymyn i fynd i’r llys ar ddiwrnod arall, neu ei gludo ar unwaith i’r brifddinas Madrid.

Yr olaf ohonyn nhw yw’r opsiwn mwyaf tebygol, ac unwaith mae’n cyrraedd yno, fe allai gael ei ryddhau’n amodol neu ei anfon i’r carchar er mwyn ei atal rhag ffoi.

Pe bai’n cael ei arestio a’i garcharu, gallai cyfreithwyr ar ran Carles Puigdemont gyflwyno cais ar gyfer habeas corpus – trefn pan fo’r sawl sydd yn y ddalfa’n ceisio eglurhad gan ynadon ynghylch a gawson nhw eu cadw yn y ddalfa’n gyfreithlon ai peidio.

Pe bai’r cais yn cael ei wrthod – ac mae hynny’n debygol – gallai apêl gael ei chyflwyno i’r Llys Cyfansoddiadol er mwyn i farnwr ddyfarnu ar frys a ddylid gweithredu’r amnest.

Daeth yr amnest i rym fis Mehefin eleni, ond mae gan farnwyr ddisgresiwn i benderfynu fesul achos.