Mae Eluned Morgan yn dweud bod “mwy o ddyletswydd ar y cyhoedd” i helpu i wella sefyllfa’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Wrth siarad â BBC Radio Wales fore heddiw (dydd Mercher, Awst 7), dywedodd Prif Weinidog newydd Cymru fod y gwasanaeth dan “bwysau aruthrol”, a bod hyn yn cael ei waethygu gan genhedlaeth sy’n “heneiddio” yng Nghymru.

“Mae’n rhaid i ni gael y cyhoedd i helpu ni efo hwn,” meddai.

“Mae gennym gyfrifoldeb i edrych ar ôl ein hunain.

“Felly, dw i yn credu bod rhaid i ni fynd ar y siwrne yma gyda’n gilydd.

“Os dydyn ni ddim yn gwneud hyn, bydd y Gwasanaeth Iechyd yn dod yn anghynaladwy – bydd y pwysau yn ormod.”

O ganlyniad i hyn, mae’r Prif Weinidog yn galw am “bartneriaeth newydd” efo’r cyhoedd.

Rhestrau aros anghyladwy

Cafodd Eluned Morgan ei phenodi’n Ysgrifennydd Iechyd Cymru yn 2021, ac roedd hi yn y swydd hyd nes iddi ddod yn Brif Weinidog ddoe (dydd Mawrth, Awst 6).

Yn ystod ei chyfnod yn gyfrifol am iechyd, mae rhestrau aros wedi codi, gyda ffigurau diweddar yn dangos bod 611,000 o bobol yn aros am driniaeth yng Nghymru.

Mae 20% o bobol yn aros mwy na blwyddyn i gael eu cyfeirio i’r ysbyty.

Yn ôl yr Athro Jon Barry, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, fu’n siarad â’r BBC, er bod “ymdrech dda” wedi bod i glirio’r rhestr, mae “ffordd bell i fynd i wneud yn siŵr eu bod yn ôl i lefelau derbyniol”.

Mae disgwyl i Eluned Morgan gyhoeddi ei Hysgrifennydd Iechyd newydd, ac aelodau eraill y Cabinet, heddiw.