Ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol heddiw (dydd Mercher, Awst 7), wrth i filoedd o blant ac arddegwyr ddod at ei gilydd, mae’r diwrnod chwarae cenedlaethol yn gyfle amserol i amlygu pwysigrwydd chwarae a chyfeillgarwch, i blant o bob oedran, medd Chwarae Cymru.

Mae thema Diwrnod Chwarae eleni yn canolbwyntio ar ddiwylliant cyfoethog a bywiog plant yn chwarae.

Mae chwarae yn creu diwylliant o blentyndod.

Chwarae yw canolbwynt bywydau plant, ac mae’n rhan allweddol o’u hiechyd, o’u hapusrwydd a’u creadigrwydd, medd y mudiad.

Drwy chwarae:

  • mae plant yn datblygu ymdeimlad o ddiwylliant ac yn dod i’w werthfawrogi
  • mae’n annog plant i archwilio’n ddiwylliannol, gan feithrin ffyrdd o werthfawrogi amrywiaeth
  • mae plant yn cydweithio, yn negodi ac yn creu perthnasoedd
  • mae plant yn teimlo cysylltiad â’i gilydd ac â’u cymdogaeth
  • mae plant yn creu gemau, caneuon a straeon ac yn eu trosglwyddo i eraill.

Yn ystod Diwrnod Chwarae eleni, mae gwahoddiad i deuluoedd, gweithwyr chwarae, swyddogion gwneud penderfyniadau, a phawb sy’n gweithio gyda phlant ar hyd a lled Cymru, i ddod at ei gilydd i feithrin diwylliant chwarae.

‘Angen mwy o gyfleoedd’

“Mae angen i ni roi mwy o gyfleoedd i blant chwarae – nid dim ond yn ystod y Diwrnod Chwarae, ond bob diwrnod o’r flwyddyn,” meddai Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru.

“Mae chwarae yn rhan o ddiwylliant plant, nid rhywbeth moethus, mae’n ymwneud â’r ffordd maen nhw’n datblygu perthnasoedd, yn mynegi eu creadigrwydd, ac yn dysgu am eu lle yn yr amgylchedd a’r gymuned.

“Yn aml, bydd plant yn cael y pleser a’r hapusrwydd mwyaf pan fyddan nhw yn chwarae, ac yn cael rhyddid i archwilio gartref a phrofi anturiaethau bob dydd gyda theulu a ffrindiau.

“Ymunwch â ni heddiw a thrwy gydol y gwyliau ac ar ôl hynny i roi rhyddid i blant chwarae.”