Gallai tri lle ar safle parhaol i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghasnewydd gael eu llenwi erbyn y flwyddyn.
Mae disgwyl i’r safle yn ward Ringland fod yn barod “ddechrau” y flwyddyn ariannol 2025-26, yn ôl adroddiad Cyngor Sir Casnewydd.
Mae disgwyl i’r safle wneud colled ar y dechrau, ond gallai ddod yn “ariannol gynaladwy” pe bai mwy o drigolion yn cael lle yno yn y dyfodol.
Y safle
Mae’r safle wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru, ac fe fydd yn cynnwys unedau wedi’u rhoi i’w gosod gan aelwydydd “o fewn cymuned Sipsiwn a Theithwyr Casnewydd” sydd wedi’u cofrestru ar gofrestr tai cyffredin y ddinas.
Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud er mwyn cwblhau’r safle wedi bod yn “gymhleth” ac wedi’i effeithio gan fandaliaeth, “meddiannu anghyfreithlon” a chanfyddiadau archaeolegol.
Yn ôl dogfennau’r Cyngor, bydd tri lle ar y safle yn y lle cyntaf, ond mae yna “gapasiti ar gyfer ehangu yn y dyfodol”.
Pe bai’n cael ei ddatblygu’n llawn, gallai’r safle gynnwys hyd at 35 lle, ond mae’r Cyngor yn cydnabod y gallai “gymryd peth amser” i’w gyflawni ac y byddai’n ddibynnol ar ragor o arian grant.
Ceisio sicrwydd
Yn ystod cyfarfod i drafod y safle, fe wnaeth y Cynghorydd Matthew Evans geisio sicrwydd fod y Cyngor yn gwybod y byddai trigolion y dyfodol yn “bobol ddiffuant sy’n dod o Gasnewydd”.
Fe wnaeth swyddogion y Cyngor gyfaddef y gallai pobol o’r tu allan i’r ddinas wneud cais am le, ond fe ddywedon nhw y byddai polisi’r safle’n “rhoi blaenoriaeth i drigolion Casnewydd, neu’r rheiny â chysylltiad â’r ardal”.
Yr wythnos hon, fe wnaeth y Cynghorydd Saeed Adan, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Dai, gymeradwyo cynlluniau i osod y ffioedd am leoedd a ffioedd gwasanaethau ar gyfer trigolion y flwyddyn nesaf.
Mae’r Cyngor yn bwriadu codi £110 yr wythnos am lefydd yn y lle cyntaf, fyddai’n werth mwy na £17,000 pe bai’r tri lle’n llawn drwy gydol y flwyddyn.
Mae hyn yn cyfateb i godi oddeutu 80% o werth y farchnad ar gyfer y llefydd, yn ôl adroddiad y Cyngor, oedd wedi nodi nifer o “bryderon” y Cynghorydd Matthew Evans ynghylch “diffyg refeniw posib, na all y Cyngor ei fforddio”.
Dywedodd rheolwr strategaeth tai’r Cyngor y bydd elfen rhent gymdeithasol yn nhermau’r gost, sy’n golygu y dylai trigolion fod yn gymwys i hawlio budd-daliadau pe baen nhw’n dymuno.
Ychwanegodd y Cynghorydd Saeed Adan ei bod hi’n “bwysig cynnig tai fforddiadwy i’r grŵp hwn, nid lleiaf oherwydd eu nodweddion a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth geisio mynediad at dai”.
Bydd yr incwm sy’n cael ei gynhyrchu’n “cyfrannu at reoli a chynnal a chadw’r safle”, meddai’r Cyngor.