Yn dilyn prosiect arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae yna well dealltwriaeth ynglŷn ag anghenion goroeswyr masnachu pobol a chaethwasiaeth fodern gan y sefydliadau a’r llunwyr polisi sy’n eu cynorthwyo, yn ôl y brifysgol.

Er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i oroeswyr caethwasiaeth fodern, cafodd deallusrwydd artiffisial ei ddefnyddio gan RESTART (Reporting Experiences of Survivors to Analyse in Real Time).

Cafodd y prosiect ei arwain gan yr Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, sy’n arbenigwr ar gyfraith ymfudo a chyfraith ddyngarol ryngwladol.

Roedd partneriaid y prosiect yn cynnwys Causeway a FiftyEight, dau sefydliad sy’n arbenigo ym maes masnachu pobol a chaethwasiaeth fodern, yn ogystal â Trilateral Research, cwmni preifat sy’n datblygu ac yn ymchwilio i ddeallusrwydd artiffisial yn foesegol.

‘Amhrisiadwy’

Defnyddiodd y prosiect ddull prosesu iaith naturiol, math o Ddeallusrwydd Artiffisial, i ddadansoddi bron i 40,000 o nodiadau achos dienw gafodd eu cofnodi gan weithwyr achos Causeway yn ystod eu cyswllt â 545 o oroeswyr caethwasiaeth fodern.

Roedd y gwaith dadansoddi’n canolbwyntio ar anghenion cymorth goroeswyr mewn meysydd fel llety, cymorth cyfreithiol, dibynyddion, addysg, cyflogaeth, iechyd corfforol a meddyliol, cyllid ac integreiddio cymdeithasol.

Datblygodd y prosiect ap hunan-gofnodi ar gyfer ffonau clyfar, oedd wedi galluogi goroeswyr masnachu pobol a chaethwasiaeth fodern i gofnodi eu meddyliau, eu teimladau, eu problemau a’u hamcanion mewn amser real.

Ar ben hynny, casglodd yr ap eu profiadau o’r gwasanaethau cymorth fu’n eu cefnogi, a’u barn am yr hyn y gellid ei wneud yn well i’w cynorthwyo.

Cafodd y testun gafodd ei gofnodi yn yr ap gan y defnyddwyr ei ddadansoddi gan ddefnyddio NLP, er mwyn gallu adnabod tueddiadau a phatrymau yn anghenion y goroeswyr.

Yn ogystal â hyn, roedd yr ap yn grymuso defnyddwyr i adnabod eu hanghenion eu hunain a chynnig atebion, gwahaniaethu rhwng anghenion uniongyrchol ac amcanion hirdymor, a bu hefyd yn fodd o olrhain eu cynnydd a’u hysgogi.

“Mae prosiect RESTART wedi llwyddo i ddangos manteision defnyddio pŵer DA i ddadansoddi’r setiau data cymhleth hyn, a thrwy hynny ddatgloi adnodd helaeth na fyddai ar gael fel arall i bob pwrpas, oherwydd prinder adnoddau,” meddai’r Athro Ryszard Piotrowicz.

“Er ei bod yn amhrisiadwy, mae yna ddiffygion i’r dechnoleg ac roedd ein panel cynghori o bobol sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern yn hanfodol wrth hyfforddi’r modelau DA a dilysu’r wybodaeth a gynhyrchwyd ganddynt.

“Mae cadw bodau dynol yn y broses yn sicrhau dealltwriaeth gyd-destunol a sensitifrwydd i natur wahanol brofiadau personol ac ystyriaethau moesegol, y gallai systemau awtomataidd eu hanwybyddu.

“Mae’r prosiect wedi dangos y gall technoleg DA, ar y cyd â mewnbwn gan bobol, roi gwell dealltwriaeth ynghylch sut i ddiwallu anghenion cymorth goroeswyr yn fwy effeithiol, a hynny’n seiliedig ar safbwyntiau defnyddwyr y gwasanaethau eu hunain.”