Mae’r Cynghorydd Carys Jones wedi’i phenodi i Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Cynllunio a Chydlyniant Cymunedol.

Bydd yn dechrau yn ei swydd ar Awst 1, gan gymryd drosodd oddi wrth y Cynghorydd Ann Davies, sydd wedi’i hethol yn Aelod Seneddol Caerfyrddin ond a fydd yn parhau’n Gynghorydd tu allan i’r Cabinet am y tro.

Cafodd y Cynghorydd Carys Jones ei hethol i Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Mai 2022, ac mae hi’n cynrychioli ward Sanclêr a Llansteffan.

Dywed y Cynghorydd Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ei bod yn “bleser croesawu’r Cynghorydd Carys Jones i’r Cabinet, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi’i gyflawni”.

“Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Ann Davies ar gael ei hethol yn Aelod Seneddol Caerfyrddin, a diolch iddi am ei gwaith cydwybodol a rhagorol dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.